tref a chymuned yn Sir Benfro From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Neyland.[1][2] Mae yn y rhanbarth Saesneg ei iaith o'r sir, ac nid ymddengys bod enw Cymraeg.[3] Saif ar ochr ogleddol Afon Cleddau, gyferbyn a Doc Penfro, gyda Phont Cleddau yn eu cysylltu. Mae Caerdydd 125.3 km i ffwrdd o Neyland ac mae Llundain yn 335.8 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 68.8 km i ffwrdd.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Gefeilldref/i | Sanguinet |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7113°N 4.9452°W |
Cod SYG | W04000457 |
Cod OS | SM965055 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Henry Tufnell (Llafur) |
Pentref pysgota bychan oedd Neyland hyd 1856, pan ddaeth yn orsaf a phorthladd ar ben draw Rheilffordd y Great Western a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel. Yn 1899 agorwyd porthladd newydd yn Wdig ger Abergwaun, a lleihaodd y defnydd o Neyland. Caewyd porthladd Neyland yn 1964.
Mae'r dref wedi'i gefeillio gyda Sanguinet yn Aquitaine.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[5]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Neyland (pob oed) (3,464) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Neyland) (361) | 10.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Neyland) (2476) | 71.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Neyland) (646) | 41.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.