pentref yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Yr Hôb[1] neu Llangyngar[2] (Saesneg: Hope), sy'n golygu 'tir caeëdig mewn cors' yn yr Hen Saesneg.[3] Mae ganddo boblogaeth o 2,522 (2001).
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,145 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.11882°N 3.04138°W |
Cod SYG | W04000993 |
Cod OS | SJ30705723 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au | Mark Tami (Llafur) |
Gorwedd y pentref tua 4.5 km o'r ffin â Lloegr (Swydd Gaer), ar lannau Afon Alun. Mae'r Hob yn un o grŵp bychan o bentrefi lleol sy'n perthyn yn agos iawn i'w gilydd, yn cynnwys Caergwrle, Abermorddu a Cefn-y-Bedd. Prif dirffurf yr ardal yw Mynydd yr Hob, i'r gorllewin o'r pentref, gyda chwarel arno sydd wedi cau bellach.
Lleolir Ysgol Uwchradd Castell Alun yn y pentref; ceir ysgol gynradd yn ogystal, sef Ysgol Estyn.
Mae cysylltiadau cludiant da yn cysylltu'r Hôb a lleoedd fel Wrecsam, Caer a'r Wyddgrug, ac mae Reilffordd y Gororau yn ei gysylltu â Lerpwl i'r gogledd-ddwyrain.
Weithiau cyfeirir at Gastell Caergwrle fel "Castell yr Hôb", am ei fod yn gorwedd rhwng y ddau le. Enw'r eglwys leol yw Sant Cynfarch a Sant Cyngar, sy'n cyfeirio at ddau sant: Cynfarch (5g) a Cyngar ap Geraint (6g). Ceir cofeb liwgar a hynafol yn yr eglwys i Sion Trevor (1563–1630), Plas Teg, gwleidydd a mab Sion Trefor (m. 1589), ystad Trefalun.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.