Ada Yonath
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cemegydd yw Ada E. Yonath (Hebraeg: עדה יונת; ganwyd 22 Mehefin 1939 yn Jerwsalem)[1] a astudiodd yn y Weizmann Institute of Science yn Israel. Enillodd y Wobr Nobel mewn Cemeg am waith ar strwythur y ribosom yn 2009[2] gyda Venkatraman Ramakrishnan a Thomas A. Steitz. Hi yw'r ferch gyntaf o'r Dwyrain Canol i ennill y wobr hon.[3]
Er iddi arbenigo mewn grisialeg, mae'n fwyaf nodedig am ei gwaith ar strwythyr y ribosom. Yn 2016 roedd yn gyfarwyddwraig Canolfan Helen a Milton A. Kimmelman yn Sefydliad Gwyddonol Weizmann.
Remove ads
Magwraeth
Ganwyd Yonath (née Lifshitz)[4] yn ardal Geula o Jeriwsalem.[5] Symudodd ei rhieni Hillel ac Esther Lifshitz, i'r ardal o Zduńska Wola, Gwlad Pwyl yn 1933, cyn creu'r Israel bresennol.[6] Rabi oedd ei thad oedd hefyd yn rhedeg siop nwyddau. Oherwydd fod arian yn brin, roedd sawl teulu'n byw yn yr un tŷ. Daeth llyfrau'n gwmni iddi - yr unig gwmni, meddai'n ddiweddarach. Llwyddodd ei rhieni iddi gael ei derbyn mewn ysgol yn Beit HaKerem, lle cafodd addysg dda. Pan y bu ei thad farw pan oedd yn 42 oed, symudodd y teulu i Tel Aviv.[7] Derbyniwyd Yonath i Ysgol Uwchradd Tichon Hadash, er nad oedd ei thad yn medru talu'r ffioedd; rhoddodd Yonath wersi mathemateg i ddisgyblion eraill er mwyn iddi fedru talu.[8] Ei harwres pan oedd yn blentyn oedd y gwyddonydd Marie Curie.[9] Dychwelodd i Jeriwsalem am ei choleg a derbyniodd radd mewn cemeg yn 1962, a gradd meistr mewn biocemeg yn 1964. In 1968, cafodd yn Sefydliad Gwyddonol Weizmann mewn astudiaeth pelydr-X o risialeg collagen, gyda Wolfie Traub yn gofalu amdani.[10][11][12]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads