Alan Turing
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mathemategydd, a rhesymegydd o Loegr oedd Alan Mathison Turing, OBE (23 Mehefin 1912 - 7 Mehefin 1954).
Fe ddatblygodd gysyniad o'r enw peiriant Turing, sy'n ffurfioli'r hyn mae cyfrifiaduron yn gallu gwneud. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn gweithio ym Mharc Bletchley, y ganolfan brydeinig ar gyfer torri'r codau a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfathrebu milwrol. Dyfeisiodd sawl techneg o dorri codau Almaenig, gan gynnwys peiriant o'r enw y bombe a oedd yn canfod dewisiadau peiriant Enigma.
Ar ôl y rhyfel, bu'n gweithio yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol, ac yna ym Mhrifysgol Manceinion lle'r oedd yn gweithio ar feddalwedd ar gyfer Marc I Manceinion, un o'r gwir-gyfrifiaduron cyntaf yn y byd.
Ym 1952, fe'i gafwyd yn euog o "weithredoedd anweddus dygn" wedi iddo gyfaddef cael perthynas rhywiol gyda dyn ym Manceinion. Fe'i rhoddwyd ar brofiannaeth prawf a gorfodwyd i dderbyn triniaeth hormonaidd. Ar 11 Medi 2009 darparodd y Prif Weinidog Gordon Brown ymddiheuriad swyddogol 55 o flynyddoedd ar ôl marwolaeth Turing, am y modd "gwarthus" y cafodd ei drin. Dywedodd Brown ei fod yn "hynod flin" am y driniaeth a gafodd Turing, wedi iddo dderbyn deiseb o dros 30,000 o enwau yn gofyn am ymddiheuriad.[1]
Bu farw ar ôl bwyta afal gyda cyanid ynddo. Tybia lawer mai hunanladdiad ydoedd.
Remove ads
Portreadau mewn diwylliant fodern
Seiliwyd y ffilm "The Imitation Game" a ryddhawyd yn 2014 ar fywyd Turing, gyda'r actor Benedict Cumberbatch yn chwarae'r prif gymeriad.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
