Denisovan

From Wikipedia, the free encyclopedia

Denisovan
Remove ads

Mae'r Denisovan neu'r Denisova hominin yn rhywogaeth neu'n isrywogaeth o'r genws Homo a oedd yn byw tua 41,000 o flynyddoedd yn ôl (Cyn y Presennol CP. Mae bellach wedi'i difodi. Dros dro, rhoddwyd iddo'r enw gwyddonol Homo sp. Altai[1] a Homo sapiens ssp. Denisova.[2][3]

Thumb
Ogof Denisova, lle canfuwyd hyd i "Benyw X"; Rwsia.
Llinell amser bodau dynol
gweld  trafod  golygu
Dwy goes (cynharaf)
Allan o Affrica
Gallu cynnau tân
Dechrau coginio bwyd
Y dillad cynharaf
Echelin: Miliwn o Flynyddoedd.
Gweler hefyd: Nodyn:Llinell amser bywyd

Ym Mawrth 2010 cyhoeddwyd fod Paleoanthropolegwyr wedi darganfod asgwrn bys benyw ifanc a oedd yn byw tua 41,000 (CP) yn Ogof Denisova ym Mynyddoedd yr Altai, Siberia. Roedd y gwyddonwyr yn ymwybodol o'r ogof cyn hyn gan fod llawer o olion Neanderthal wedi'i ganfod yno yn ogystal â bodau dynol modern.[4][5][6]

Ers y darganfyddiad hwnnw yn 2010 cafwyd hyd i ddau ddant arall o'r un rhywogaeth: yn Nhachwedd 2015 cafwyd dant gyda deunydd DNA. Yn 2016 darganfuwyd nodwydd a wnaed o asgwrn ac a ddyddiwyd i 50,000 CP; dyma felly'r nodwydd hynaf.[7][8][9]

Remove ads

Astudiaeth o'r DNA a dyddio

Mae'r gwahaniaeth yn yr mtDNA rhwng yr asgwrn a gafwyd yn yr ogof ac esgyrn bodau dynol modern yn gwahaniaethu mewn 385 bas (neu Niwcleotid) a hynny allan o tua 16,500 bas. Gellir cymharu hyn gyda'r gwahaniaeth rhwng Neanderthal a bod dynol modern, sef 202 bas; y gwahaniaeth rhwng y Tsimpansî a bod dynol modern yw 1,462 mtDNA bas.[6] Rhoddodd y wybodaeth hon y gallu i wyddonwyr amcangyfrif i'r ymwahanu ddigwydd tuag un filiwn o flynyddoedd CP. Roedd yr mtDNA o'r dant yn hynod o debyg i hwnnw a gafwyd hefyd o asgwrn bys, y ddau o'r un boblogaeth.[10] O ail ddant a ganfuwyd, cafwyd cyfres mtDNA a ddangosodd fod cryn wahaniaeth genetig o'i gymaru a'r ddau arall, sy'n awgrymu bod amrywiaeth eang yn yr mtDNA. Dyma ddau unigolyn, o'r un ogof, gyda'r gwahaniaeth rhyngddynt yn llawer mwy, dyweder, na rhwng dau Neanderthal, ond yn debyg i'r gwahaniaeth dybryd rhwng bodau dynol modern ar wahanol gyfandiroedd heddiw.[10]

Fossiliau

Hyd at Wanwyn 2017 cafwyd hyd i dri unigolyn yn yr Ogof Denisovans, a adnabuwyd drwy ddadansoddiad o'u DNA:

  1. Denisova 3 - merch ifanc
  2. Denisova 4 - oedolyn gwryw
  3. Denisova 8 - oedolyn gwryw.[8][8]
Remove ads

Paru gyda Neanderthal

Mae ymchwil genetig a wnaethpwyd yn 2010 yn awgrymu fod bodau dynol a'r Neanderthal yn rhyng-bridio rhwng 80,000 a 50,000 o flynyddoedd yn ôl yn y Dwyrain Canol. O ganlyniad mae gan fodau dynol Ewrasiaidd rhwng 1% a 4% mwy o DNA Neanderthalaidd nag Affricanwyr Is-Sahara.[11] Roedd y Neanderthal yn perthyn yn agor i fodau dynol modern, gyda gwahaniaeth yn eu DNA o ddim ond 0.12%.

Thumb
Siart 'Stringer' o esblygiad sawl rhywogaeth o'r genws Homo dros ddwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'r cysyniad "Allan o Affrica" i'w weld ar frig y siart.

Yn y 2010au, mewn ogof ym Mynyddoedd Altai, cafwyd hyd i DNA o fewn asgwrn un o'i thrigolion, merch 13 oed, a drigai yno tua 50,000 o flynyddoedd cyn y presennol CyP. Hyd at 40,000 CP roedd y Neanderthal i'w weld drwy orllewin Ewrop a'r Denisovan drwy ddwyrain Ewrop, ond mewn rhai llefydd roeddent yn cyd-fyw. Profodd y DNA fod y tad yn Denisovan a'r fam yn Neanderthal.[12]

Remove ads

Cymharu penglogau

Thumb

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads