Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016

prifwyl ger y Fenni, Sir Fynwy From Wikipedia, the free encyclopedia

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016
Remove ads

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 ger y Fenni, Sir Fynwy rhwng 29 Gorffennaf a 6 Awst 2016. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi yng Nghil-y-Coed ar 27 Mehefin 2015.[3]

Ffeithiau sydyn Lleoliad, Cynhaliwyd ...

Llywydd yr Ŵyl oedd Dr Elin Jones o Ystrad Mynach, hanesydd nodedig sydd hefyd yn weithgar yn y maes iechyd meddwl.[4]

Ymhlith y 31 unigolyn a fydd yn cael eu anrhydeddu, bydd cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Wyn Jones, o'r Bala a Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd a Gwenda Thomas, cyn-Aelod Cynulliad y Blaid Lafur dros Gastell-nedd. Hefyd derbyniodd Roger Boore, Caerdydd, sylfaenydd Gwasg y Dref Wen y wisg las ac anrhydeddwyd Gwyn Elfyn, yr actor (Pobol y Cwm) gyda'r wisg werdd am ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru.[5] Cafwyd beirniadaeth ar yr archdderwydd gan nad anrhydeddwyd yr un o chwaraewyr pêl-droed Cymru er iddynt sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth UEFA Euro 2016.[6] Ar ddydd Mercher yr eisteddfod, fodd bynnag, cafwyd dau gynrychiolydd o Gymdeithas Bêl-droed Cymru: yr Is-Hyfforddwr, Osian Roberts, a phennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes.

Remove ads

Prif gystadlaethau

Y Gadair

Hanner can mlynedd ers i Dic Jones gipio'r gadair yn Eisteddfod Aberafan 1966 am ei awdl 'Y Cynhaeaf' enillodd Aneirin Karadog o Bontyberem am awdl a oedd yn cynnwys adleisiau bwriadol o awdl 'Y Gwanwyn' gan Dic Jones. Tudur Dylan Jones oedd yn traddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid Cathryn Charnell-White a Meirion MacIntyre Huws a dywedodd fod naw wedi cystadlu ar y testun 'Ffiniau'.

Y Goron

Enillydd y goron oedd Elinor Gwynn (ffugenw 'Carreg Lefn') o Rhostryfan ger Caernarfon; roedd 33 wedi cystadlu a'r dasg oedd creu casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Llwybrau'. Y tri beirniad oedd Siân Northey, Menna Elfyn ac Einir Jones.

Gwobr Goffa Daniel Owen

Enillydd y wobr oedd Guto Dafydd gyda'i nofel Ymbelydredd, gyda naw o lenorion yn cystadlu. Ysgrifennu nofel o dros 50,000 o eiriau, gyda llinyn stori cryf yn nadreddu drwyddi oedd y gamp. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, wedi ei gyflwyno gan Gymuned Llanofer. Y beirniaid oedd Jon Gower, Fflur Dafydd a Gareth F. Williams.

Y Fedal Ryddiaith

Enillydd y fedal oedd Eurig Salisbury o Aberystwyth; roedd 14 o ymgeiswyr i gyd a'r dasg oedd ysgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Galw'. Y tri beirniaid oedd: Angharad Dafis, Dafydd Morgan Lewis a Jane Aaron.

Tlws y Cerddor

Enillydd y tlws oedd Gareth Olubunmi Hughes o Gaerdydd, yr ail dro iddo ennill ar ôl ei lwyddiant yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012. Y dasg oedd cyfansoddi pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gan fardd cyfoes. Y wobr yw Tlws y Cerddor (Urdd Cerddoriaeth Cymru) a £750 ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol. Y beirniaid oedd Jeffrey Howard ac Osian Llŷr Rowlands.[7]

Y Fedal Ddrama

Enillydd y Fedal Ddrama oedd Hefin Robinson, yn wreiddiol o Gaerfyrddin, am ei ddrama Estron; roedd 12 o ymgeiswyr a'r dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Y beirniaid oedd Aled Jones Williams, Catrin Jones Hughes a Ffion Haf.

Remove ads

Rhai digwyddiadau

Y Lle Celf

Y Lle Celf yw oriel gelfyddydau gweledol yr Eisteddfod ac mae’n un o’r adeiladau mwyaf poblogaidd ar y Maes gan ddenu, fel arfer, hyd at 40,000 o ymwelwyr. Mae’r oriel yn gartref i waith rhai o artistiaid blaenaf Cymru, a’r gwaith wedi'i ddewis fel rhan o’r arddangosfa agored; mae gwaith enillwyr y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, y Fedal Aur am Grefft a Dylunio a’r Fedal Aur am Bensaernïaeth i’w gweld yn Y Lle Celf. Ymhlith y digwyddiadau roedd Dafydd Iwan yn arwain sesiwn am y pensaer Dewi-Prys Thomas.

Caffi Maes B

Cafwyd cerddoriaeth acwstig, gweithdai, comedi, sgyrsiau gyda cherddorion ac artistiaid a phob math o weithgareddau am y sîn roc Gymraeg. Ymhlith y bandiau a'r cerddorion roedd:

  • Hyll: band o Gaerdydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Maldwyn.
  • Sorela: grŵp gwerin harmoni newydd o Aberystwyth. Penderfynodd y tair chwaer, Gwenno, Mari a Lisay, ffurfio Sorela ar ôl blynyddoedd o ganu gyda'u mam, Linda Griffiths, o’r grŵp gwerin Plethyn.
  • Argrph: Band wedi'u dylanwadu gan gerddoriaeth surf-rock o orllewin U.D.A, gyda chymysgedd o elfennau grunge a bandiau mwy trwm a psychedelic y sîn yng Nghymru. Mae'r caneuon wedi eu hysgrifennu gan Emyr Siôn, sydd hefyd yn canu a chwarae gitâr, gydag Alun Bryn ar y bas a Tomos Evans ar y drymiau.
  • Cadno: Band arall o Gaerdydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Brwydr y Bandiau 2015. Eu sengl gyntaf oedd Ludagretz a ryddhawyd ar label JigCal.
  • Trwbz: Band a chyfuniad cymysg o roc, pop a'r blŵs.
  • Cpt Smith: Mae Cpt Smith yn dilyn ôl traed 'Y Ffug' fel cyn-ddisgyblion yn Ysgol y Preseli, gyda'u cerddoriaeth pync. Rhyddhawyd y sengl ddwbl 'Llenyddiaeth // Bad Taste' ganddynt ar label Ka Chinh.

Maes D

Maes D (neu 'Babell y Dysgwyr') yw’r lle i ddysgwyr Cymraeg neu am wybodaeth am yr iaith. Yma, daw pobl at ei gilydd i gymdeithasu, cystadlu, rhannu profiadau, mwynhau cwmni siaradwyr Cymraeg ac i gael gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg. Cystadleuaeth fwyaf Adran y Dysgwyr yw Dysgwr y Flwyddyn. Un o'r sesiynau a drefnwyd ar gyfer Maes D oedd sesiwn o gerddoriaeth gwerin gyda Dylan Fowler a Gill Stevens, dau gerddor sydd wedi perfformio ar draws y byd, ac sy’n defnyddio pob math o offerynnau, gan gynnwys y crwth fel rhan o’u perfformiad.

Tŷ Gwerin

Thumb
Sian James yn Nhŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Trefnwyd y Tŷ Gwerin mewn partneriaeth gyda Trac, Clera a Chymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru. Mae'r babell yn ymwneud gyda thraddodiadau gwerin Cymru yn yr ystyr ehangaf bosibl, gyda chyfle i fwynhau rhai o’n traddodiadau cynhenid mewn ffordd newydd (ee Stomp Cerdd Dant) yn ogystal â sesiynau ar bynciau cyffredinol.

Remove ads

Anrhydeddau'r Orsedd

Un o ofynion yr Orsedd yw fod pob person a enwebir yn gallu siarad Cymraeg. Cafodd yr isod eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ar fore dydd Gwener, 5 Awst.[8]

Gwisg Las

  • Roger Boore, Caerdydd – Sylfaenydd Gwasg y Dref Wen
  • Rhiannon Davies, Y Fenni – Swyddog Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Robin Harries Aled Davies, Coleford, Swydd Gaerloyw – Arweinydd y gwaith o godi arian yn lleol ar gyfer yr Eisteddfod eleni a sylfaenydd Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a’r Cylch
  • H Ellis Griffiths, Dinas Powys – Pennaeth Ysgol Gyfun Gwynllyw
  • Brian Jones, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin – Pennaeth Cwmni Bwydydd Castell Howell
  • Emyr Wyn Jones, Y Bala – cyn-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru 2011-15
  • Richard Jones, Wrecsam – Pencampwr plant ac ieuenctid sydd ag anghenion addysgol, yn benodol ym maes Syndrom Down
  • Elin Maher, Casnewydd – sylfaenydd Menter Casnewydd
  • Aled Wyn Phillips, Caerdydd - un fy llywio bywyd cymdeithasol Cymraeg Caerdydd ers y 1980au
  • Ken Rees, Hendygwyn-ar-Daf – am ei gyfraniad dros Gymdeithas Genedlaethol Hywel Dda a Chanolfan Hywel Dda
  • Philip Brian Richards, Aberpennar – Barnwr
  • Elizabeth Saville Roberts, Morfa Nefyn – Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd
  • Sue Roberts, Pwllheli – cydlynydd Cylch Catholig Cymru, gan weithio i ddod â’r Gymraeg yn rhan o’r Eglwys
  • Ceri Thomas, Y Fenni – Cadeirydd Eisteddfod Y Fenni
  • Gwenda Thomas, Castell-nedd – cyn Aelod Cynulliad Castell-nedd
  • John Gordon Williams, Lerpwl – cyn llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg ac aelod blaenllaw o gymuned Gymraeg Lerpwl
  • Gwyneth Williams, Pontsenni – Hyfforddwraig llefaru i blant a phobol ifanc
  • Dafydd Wyn, Glanaman – un o sylfaenwyr papur bro Glo Mân a bardd nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol

Gwisg Werdd

  • Carole Collins, Prion, Dinbych - un sy’n gweithio dros y Gymraeg yn ei bro ac a lwyddodd i sicrhau lle i’r Gymraeg, eisteddfodau ysgol a’r Urdd yn rhai o ysgolion Seisnig yr ardal.
  • Martha Davies, Lincoln, Nebraska – a ddysgodd Cymraeg ar ôl symud i Aberystwyth am bedair blynedd, sydd hefyd yn rhedeg Prosiect Canolfan Gymreig y Gwastadedd Mawr yn Nebraska.
  • Jennifer Eynon, Wrecsam – Hyfforddwraig llefaru i blant a phobol ifanc
  • Gruffydd John Harries, Mwmbwls, Abertawe – Cerddor, sydd wedi gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar nifer o gyngherddau
  • Anne Hughes, Tongwynlais – arbenigwraig y ddawns werin Gymreig ac un o sefydlwyr dawnswyr Gwerinwyr Gwent
  • Ken Hughes, Cricieth – pennaeth cynradd a fu’n gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo sioe gynradd yr Urdd yn 1990
  • Gwyn Elfyn Lloyd Jones, Pontyberem, Llanelli – actor a Chadeirydd Menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli
  • Megan Jones, Penparcau, Aberystwyth – cadeirydd pwyllgor y papur bro lleol, Yr Angor, ac un sydd wedi codi miloedd i elusennau drwy fudiadau dyngarol yng Ngheredigion
  • Siân Lewis, Caerdydd – Prif Weithredwr Menter Iaith Caerdydd, a fu’n gyfrifol dros ddechrau gŵyl Tafwyl yn y ddinas a datblygiad Yr Hen Lyfrgell diweddar
  • Wyn Lodwick, Pwll, Llanelli – cerddor jazz, sydd wedi hyrwyddo’r Gymraeg a’r diwylliant drwy gyfrwng jazz ac yn gyffredinol, yng Nghymru a thu hwnt
  • Ruth Lloyd Owen, Llanddoged, Llanrwst – athrawes a chyfansoddwraig sydd wedi cyfrannu dros yr iaith a diwylliant ei hardal
  • Dafydd Meirion Roberts, Caernarfon – Prif Weithredwr cwmni recordio Sain, ac aelod o Ar Log
  • Godfrey Wyn Williams, Trefor, Llangollen – cyn-berchennog yr orsaf radio, Marcher Sound
Remove ads

Gweler hefyd

Dolen allanol

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads