Eric Hobsbawm
hanesydd academaidd Prydeinig a hanesydd Marcsaidd (1917-2012) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Hanesydd ac awdur Marcsaidd o Loegr oedd Eric John Ernest Hobsbawm (9 Mehefin, 1917 – 1 Hydref 2012), a elwir gan amlaf yn "Eric Hobsbawm" neu'n "E. J. Hobsbawm". Ymhlith ei weithiau enwocaf yw ei driawd ar "y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir": The Age of Revolution: Europe 1789–1848, The Age of Capital: 1848–1875, ac The Age of Empire: 1875–1914; a'i lyfr ar "yr ugeinfed ganrif fer", The Age of Extremes: The Short Twentieth Century, 1914–1991.
Cafodd ei eni i deulu Iddewig yn Alecsandria, yr Aifft, ym 1917, a symudodd i Fienna pan oedd yn ddwyflwydd oed. Masnachwr Prydeinig oedd ei dad a llenores Awstriaidd oedd ei fam, a bu farw'r ddau yn ystod y Dirwasgiad Mawr. Ymunodd Eric Hobsbawn â'r Blaid Gomiwnyddol yn 14 oed tra'n byw ym Merlin â'i ewythr. Ymfudodd i Loegr ym 1933 ac aeth i Brifysgol Caergrawnt, lle bu'n gyfaill i Raymond Williams. Penodwyd ef yn ddarlithydd hanes yng Ngholeg Birkbeck ym 1947 a dyrchafwyd yn athro ym 1970.[1][2] Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Interesting Times: A Twentieth Century Life, yn 2002.
Bu farw ar 1 Hydref 2012 yn y Royal Free Hospital, Llundain, o niwmonia.[3]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads