1 Hydref
dyddiad From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
1 Hydref yw'r dau-gant saith-deg pedwerydd (274ydd) dydd o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (275ed mewn blwyddyn naid). Erys 91 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.
Digwyddiadau

- 331 CC - Brwydr Gaugamela rhwng Alecsander Fawr a Darius III, brenin Persia
 - 1553 - Coroni Mari I, brenhines Lloegr.
 - 1890 - Parc Cenedlaethol Yosemite yn cael ei sefydlu.
 - 1908 - Henry Ford yn dechrau gwerthi ceir y Model T yn Unol Daleithiau America, am bris digon isel i fod o fewn cyrraedd llawer mwy o bobl na chynt.
 - 1949 - Mao Zedong yn cyhoeddi gwladwriaeth gomiwnyddol yn Tsieina sef Gweriniaeth Pobl Tseinia.
 - 1960 - Nigeria'n cyhoeddi ei hannibyniaeth ar Brydain.
 - 1978 - Twfalw yn dod yn wlad annibynnol oddi wrth Prydain.
 - 1994 - Palaw yn dod yn wlad annibynnol oddi wrth Uniol Daleithiau.
 - 2012 - Diflaniad April Jones, merch pum mlwydd oed o Fachynlleth.
 - 2014 - Jens Stoltenberg yn dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol NATO.
 - 2017 
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017.
 - Priodas o'r un rhyw yn dod yn gyfreithlon yn yr Almaen.
 - Cyflafan Las Vegas 2017 pan saethwyd 60 o bobl yn farw.
 
 - 2024
- Shigeru Ishiba yn dod yn Brif Weinidog Japan.
 - Mark Rutte yn dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol NATO.
 - Claudia Sheinbaum yn dod yn Arlywydd Mecsico.
 
 
Remove ads
Genedigaethau



- 208 - Alexander Severus, Ymerawdwr Rhufain (m. 234)
 - 1207 - Harri III, brenin Lloegr (m. 1272)
 - 1541 - El Greco, arlunydd a phensaer (m. 1614)
 - 1891 - Morfydd Llwyn Owen, cantores opera (m. 1918)
 - 1895 - Liaquat Ali Khan, Prif Weinidog Pacistan (m. 1951)
 - 1903 - Vladimir Horowitz, pianydd (m. 1989)
 - 1910 - Bonnie Parker (m. 1934)
 - 1912 - Fonesig Kathleen Ollerenshaw, gwyddonydd (m. 2014)
 - 1920 - Walter Matthau, actor (m. 2000)
 - 1921 - James Whitmore, actor (m. 2009)
 - 1923 - Trevor Ford, pel-droediwr (m. 2003)
 - 1924 - Jimmy Carter, 39ain Arlywydd yr Unol Daleithiau
 - 1925 - Mary Anne de Boisblanc, arlunydd (m. 2015)
 - 1927 - Tom Bosley, actor (m. 2010)
 - 1930 - Richard Harris, actor (m. 2002)
 - 1935 - Fonesig Julie Andrews, actores a chantores
 - 1945 - Mona Saudi, arlunydd (m. 2022)
 - 1949 - André Rieu, cyfansoddwr a ffidler
 - 1950 - Boris Morukov, gofodwr (m. 2015)
 - 1953
- Klaus Wowereit, gwleidydd
 - John Hegley, bardd a cherddor
 
 - 1956 - Theresa May, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
 - 1957 - Hedy d'Ancona, gwleidydd
 - 1965 - Mia Mottley, Prif Weinidog Barbados
 - 1966 - George Weah, pêl-droediwr a gwleidydd, Arlywydd Liberia
 - 1981 - Fonesig Deborah James, ymgyrchydd canser (m. 2022)
 - 1987 - Michaela Coel, actores a sgriptiwraig
 - 1989 - Brie Larson, actores
 
Remove ads
Marwolaethau


- 1404 - Pab Boniffas IX, 54
 - 1684 - Pierre Corneille, dramodydd, 78
 - 1697 - Claudine Bouzonnet-Stella, arlunydd, 61
 - 1708 - John Blow, cyfansoddwr, 59
 - 1788 - William Brodie, crefftwr, 47
 - 1791 - Adriana Verbruggen, arlunydd, 84
 - 1873 - Edwin Henry Landseer, arlunydd, 71
 - 1914 - Kitty Lange Kielland, arlunydd, 70
 - 1936 - Emma Ronner, arlunydd, 75
 - 1985 
- Phil Silvers, comediwr, 74
 - E.B. White, llenor, 86
 
 - 1992 - Petra Kelly, gwleidydd, 44
 - 2007 - Al Oerter, athletwr, 71
 - 2009 - Kazumi Takada, pêl-droediwr, 58
 - 2012 
- Eric Hobsbawm, hanesydd, 95
 - April Jones, 5
 
 - 2013 - Tom Clancy, awdur, 66
 - 2015 - Illtyd Harrington, gwleidydd, 84
 - 2016 - Daphne Odjig, arlunydd, 97
 - 2018 - Charles Aznavour, actor, canwr a diplomydd, 94
 
Gwyliau a chadwraethau
- Diwrnod Cenedlaethol (Gweriniaeth Pobl Tsieina)
 - Diwrnod Annibyniaeth (Nigeria, Twfalw)
 - Diwrnod Llysieuol y Byd
 - Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hyn
 - Diwrnod Coffi Rhyngwladol
 - Diwrnod Uno (Camerwn)
 - Diwrnod Athrawon (Wsbecistan)
 - Diwrnod Swydd Lincoln
 
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads