Mathemategydd a ffisegydd arloesol o'r Swistir oedd Leonhard Euler (15 Ebrill 1707 – 18 Medi 1783). Gwnaeth ddarganfyddiadau pwysig mewn ystod eang o feysydd megis calcwlws gorchfychanion a theori graff. Ef hefyd gyflwynodd lawer o'r terminoleg a'r nodiant mathemategol modern, yn enwedig ar gyfer dadansoddi mathemategol. Mae ef hefyd yn enwog am ei waith ar fecaneg, deinameg hylifol a seryddiaeth.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
| Leonhard Euler |
|---|
 |
| Ganwyd | 15 Ebrill 1707 Basel |
|---|
| Bu farw | 18 Medi 1783 St Petersburg |
|---|
| Man preswyl | Basel, St Petersburg, St Petersburg, Berlin, Q15782821 |
|---|
| Dinasyddiaeth | Old Swiss Confederacy, Ymerodraeth Rwsia, Teyrnas Prwsia |
|---|
| Addysg | gradd meistr, Doethur mewn Athrawiaeth |
|---|
| Alma mater | |
|---|
| Ymgynghorydd y doethor | |
|---|
| Galwedigaeth | mathemategydd, ffisegydd, academydd, ysgrifennwr, damcaniaethwr cerddoriaeth, seryddwr, gwyddonydd, dyfeisiwr, weithredwr, daearyddwr |
|---|
| Swydd | adjunct, athro cadeiriol, athro cadeiriol |
|---|
| Cyflogwr | - Academi Gwyddoniaethau Rwsia
- Academi Gwyddoniaethau Rwsia
- Academi Gwyddorau Prwsaidd
- Prifysgol Saint Petersburg
|
|---|
| Adnabyddus am | Euler's theorem, Euler's rotation theorem, Euler's theorem in geometry, Euler's sum of powers conjecture, Euler's polyhedron formula, Euler–Lagrange equation, Cauchy–Euler equation, Ffwythiant φ Euler, Euler's identity, Euler's four-square identity, Fformiwla Euler, Euler's theorem, gamma function, Gaussian integral, Euler–Mascheroni constant, lucky numbers of Euler, Diagram Euler, nine-point circle, Euler line, llwybr Euleraidd |
|---|
| Prif ddylanwad | Pierre de Fermat, Christiaan Huygens, Pierre-Louis Moreau de Maupertuis |
|---|
| Tad | Paul III Euler |
|---|
| Mam | Marguerite Brucker |
|---|
| Priod | Salomea Abigail Euler, Katharina Euler |
|---|
| Plant | Johann Euler, Christoph Euler, Carl Euler |
|---|
| llofnod |
|---|
 |
Cau
Treuliodd Euler y rhan fwyaf o'i oes yn St Petersburg, Rwsia ac yn Berlin. Caiff ei gyfri fel y mathemategydd pwysicaf yn y 18g, ac un o'r mwyaf erioed drwy'r byd. Mae hefyd yn un o'r mathemategwyr mwyaf cynhyrchiol o ran ei gyhoeddiadau.[2]