Ffestiniog
pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref, chymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Ffestiniog ( ynganiad ) neu Llan Ffestiniog. Saif rhwng Blaenau Ffestiniog a Maentwrog, yng Nghwm Ffestiniog. O'r pentref ceir golygfeydd braf o'r Moelwynion, Cnicht a bryniau Blaenau. Yn y plwyf ceir Rhaeadr y Cwm a Phwlpud Huw Llwyd ar lan Afon Cynfal.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Enw ysgol y pentref yw Ysgol Bro Cynfal. Mae un dafarn yn y pentref o'r enw Y Pengwern ac un siop, swyddfa bost a hefyd neuadd bentref. Llan Ffestiniog yw cartref Clwb Golff Ffestiniog.
Remove ads
Trafnidiaeth a Chludiant
Mae cefnffordd de-gogledd yr A470 yn rhedeg drwy'r pentref. Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn cysylltu'r pentref gyda Blaenau Ffestiniog a'i orsaf drenau a Phorthmadog a gwasanaeth arall i Ddolgellau. Arferai'r pentref gael ei wasanaethu gan reilffordd o Flaenau Ffestiniog i'r Bala tan yr 1960au.
Traddodiad
Dyma'r fro a gysylltir â Blodeuwedd, Lleu Llaw Gyffes a Gronw Pebr yn y Pedair Cainc y Mabinogi. Gelwir hen garreg ar lan Afon Cynfal, i'r de o'r pentref, yn Llech Ronw. Mae twll ynddi a chredid mai hon oedd y garreg a afaelodd Gronw ynddi i amddiffyn ei hun rhag tafliad gwaywffon Lleu. Dwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref mae Llyn y Morynion, a gysylltir â morwynion Blodeuwedd a gerllaw iddo mae Beddau Gwŷr Ardudwy.
Remove ads
Enwogion
- Huw Llwyd - Bardd a milwr, ganwyd yng Nghynfal-fawr, filltir i'r de o Ffestiniog, ond ym mhlwyf Maentwrog
- Morgan Llwyd - llenor Piwritanaidd, ganwyd yng Nghynfal-fawr.
- Geraint Vaughan Jones, nofelydd.
- Mici Plwm - actor, troellwr disgiau.
- Yws Gwynedd - cerddor.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Remove ads
Gweinidogion
- J. W. Edwards
- ”14 Rhagfyr 1890 J.W. Edwards, Ffestiniog. Go lew. Nid yw yn fedrus iawn fel traddodwr.”[6]
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads