Porthmadog

tref a chymuned yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Porthmadog
Remove ads

Tref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Porthmadog[1] neu Port[2] ar lafar. Fe'i lleolir ar aber Afon Glaslyn yn Eifionydd. Saif oddeutu 7 km o Gricieth.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Mae dros 65% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Cyn adleoli 1972 arferai fod yn Sir Gaernarfon. Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 4,187.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Remove ads

Hanes

Hanes diweddar

Thumb
Y Cob

Datblygodd Porthmadog ar ôl i W. A. Madocks, Aelod Seneddol dros Boston, Swydd Lincoln, yn Lloegr, adeiladu'r morglawdd a elwir y Cob er mwyn adennill tir amaethyddol o'r Traeth Mawr, a orchuddid gan y môr yn yr hen ddyddiau pan fyddai'r llanw i mewn. Datblygodd Porthmadog yn borthladd pwysig i allforio llechi o'r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog, ac fe adeiladwyd y rheilffordd fyd-enwog, Rheilffordd Ffestiniog i gario'r llechi o Ffestiniog i Borthmadog. Am ddegawdau, bu Porthmadog yn bwysig iawn yn niwydiant llechi'r byd, ond gyda'r dirywiad yn y diwydiant llechi collodd y porthladd ei bwysigrwydd.

Roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yn y dref hefyd. Efallai mai'r mwyaf enwog o longau Porthmadog oedd y sgwneri tri mast a adeiladwyd rhwng 1891 a 1913. Adnabyddid y rhain fel y Western Ocean Yachts, a dywedir eu bod ymysg y llongau hwylio prydferthaf a adeiladwyd erioed. Yn 1913 lansiwyd y Gestiana, y llong olaf i'w hadeiladu yma.

Olion hynafol

Ceir clwstwr cytiau caeedig Parc y Borth gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Remove ads

Y dref heddiw

Thumb
Taliesin yn croesi Pont Britannia

Bellach, tref dwristaidd yw hi. Fe'i gelwir yn aml yn "Fynedfa i Eryri" oherwydd ei safle daearyddol. Mae Rheilffordd Ffestiniog, a ddefnyddir ddyddiau hyn i gario ymwelwyr o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog, a Rheilffordd Eryri, sy'n mynd i Gaernarfon, yn boblogaidd iawn.

Mae Clwb Pêl Droed Porthmadog yn chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray.

Enwogion

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhorthmadog ym 1987. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Remove ads

Atyniadau eraill

Mae'r pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog.

Llefydd o addoliad (1913)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads