Gwerth absoliwt
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mewn mathemateg, gwerth absoliwt |x| unrhyw rif real x yw gwerth annegatif x heb unrhyw ystyriaeth i'w Arwydd. Felly, |x| = x ar gyfer positif x, |x| = −x ar gyfer y negatif x (sy'n gwneud −x yn bositif) a |0| = 0. Er enghraifft, gwerth absoliwt 3 yw 3 a gwerth absoliwt -3 hefyd yw 3. Gellir ystyried gwerth absoliwt unrhyw rif fel y pellter rhyngddo â sero. Yr hen derm am y gwerth absoliwt oedd modulus.


Mae cyffredinoli ynghylch y gwerth absoliwt yn digwydd mewn llawer o feysydd. Er enghraifft, ceir diffiniad o'r gwerth absoliwt yn nhermau rhifau cymhlyg, y cwaternion/au, cylchoedd trefnedig a gofod fectoraidd. Mae'r syniad o werth absoliwt yn perthyn yn agos i faint, a meintiau, pellter a norm, yng nghyd destun mathemateg a ffiseg.
Remove ads
Diffiniad a nodweddion
Rhifau real
Ar gyfer rhif real x, dynodir gwerth absoliwt x gan |x| (beipen fertigol o boptu'r maint), ac a gaiff ei diffinio fel:[1]
Felly, mae gwerth absoliwt x, bob tro, naill ai'n bositif neu'n sero, ond byth yn negatif. Pan fo x ei hun yn negatif (x < 0), yna mae ei werth absoliwt o reidrwydd yn bositif (|x| = −x > 0).
Rhifau cymhlyg

Gan nad yw rhifau cymhlyg yn drefnedig, mae'r diffiniad uchod yn berthnasol i rifau real, ond yn amherthnasol i rifau cymhlyg. Diffinnir gwerth absoliwt rhifau cymhlyg fel ei bellter Ewclidaidd o'i bwyntiau cyfatebol yn y plân cymhlyg o'i darddiad. Gellir cyfrifo hyn drwy ddefnyddio Theorem Pythagoras; ar gyfer unrhyw rif cymhlyg:
lle mae x ac y yn rhifau real, dynodir gwerth absoliwt z gan |z| ac fe'i diffinnir gan[2]
lle mae Re(z) = x a Im(z) = y yn dynodi rhannau real a dychmygol z, yn ôl eu trefn. Pan fo'r rhan dychmygol y yn sero, ceir cyd-daro gyda diffiniad gwerth absoliwt y rhif real x.
Remove ads
Hanes
Cyflwynodd y mathemategydd Jean-Robert Argand y term Ffrangeg module i olygu uned o fesur yn 1806, yn arbennig ar gyfer "gwerth absoliwt 'cymhleth'" a bethyciwyd y term i'r Saesneg (yn ei ffurf Ladin modulus) yn 1866.[3][4] Cyflwynwyd y nodiant |x|, gyda pheipen o'i boptu, gan Karl Weierstrass yn 1841.[5] Mewn cyfrifiadureg, cynrychiolir gwerth absoliwt gan abs(x), neu nodiant debyg.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads