Gwynn ap Gwilym

bardd, cyfieithydd, golygydd, nofelydd (1955-2016) From Wikipedia, the free encyclopedia

Gwynn ap Gwilym
Remove ads

Bardd a golygydd o Gymru oedd Gwynn ap Gwilym (23 Mehefin 195031 Gorffennaf 2016)[1]. Ganed ef ym Mangor, Gwynedd a'i fagu ym Machynlleth.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Yn y 70au bu Gwynn yn darlithio yn Adran Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol Prifysgol Iwerddon, Corc. Bu hefyd yn gyd-olygydd y cylchgrawn Barn rhwng 1979 ac 1981. Bu hefyd yn ddarlithydd mewn Hebraeg ac Astudiaethau Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth.

Roedd ei waith barddonol yn cynnwys y cyfrolau Y Winllan Werdd (1977) a Gwales (1983). Cyhoeddodd nofel Da o Ddwy Ynys ym 1978. Nofel ffuglen wleidyddol oedd hi yn seiliedig ar hynt a helynt Gwladwriaethau Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon a Chymru - ac argyfwng am Ogledd Iwerddon.

Thumb
Clawr un o gyfrolau Gwynn.

Golygodd y gyfrol Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif i Gyhoeddiadau Barddas (1987) ar y cyd ag Alan Llwyd.

Yn 2014 fe'i penodwyd gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan yn Ganon yn esgobaeth Llandaf. Bu farw yn 2016 ar ôl brwydro canser ers rhai blynyddoedd gan adael ei wraig, Mari, a'i frawd y cerddor Barchedig Ifor ap Gwilym. Bu farw ei chwaer, Lona Jones yn 2015.[2]

Remove ads

Gwaith

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads