Myrddin ap Dafydd

prifardd a golygydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia

Myrddin ap Dafydd
Remove ads

Prifardd, golygydd a chyhoeddwr o Gymru yw Myrddin ap Dafydd (ganwyd 25 Gorffennaf 1956). Bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 2019 a 2024.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Bywyd cynnar ac addysg

Magwyd Myrddin yn Llanrwst. Addysgwyd ef yn Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n fab i'r awdur llyfrau plant Dafydd Parri ac i'r werthwraig llyfrau Arianwen Parri.

Gyrfa

Sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980. Cyhoeddodd nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, llyfrau i blant yn Gymraeg a Saesneg, a'r cylchgrawn Llafar Gwlad. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002.[1] Mae'n bellach wedi ymgartrefu yn Llwyndyrys ger Pwllheli, Pen llyn Gwynedd.[2] Ef oedd y Bardd Plant cyntaf yn 2000.

Cyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf 2018 mai ef fydd Archdderwydd Cymru rhwng 2019 a 2022 gan ddilyn Geraint Lloyd Owen.[3] Yn 2020 bu'n rhaid gohirio'r Eisteddfod oherwydd pandemig COVID-19 a cytunodd yr Orsedd i ymestyn ei gyfnod am flwyddyn ychwanegol.[4] Ni gynhaliwyd Eisteddfod llawn yn 2021 felly ymestynwyd ei gyfnod ymhellach i 2024.[5]

Thumb
Myrddin yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022
Remove ads

Bywyd personol

Mae Myrddin yn briod i Llio Meirion, ac yn dad i Carwyn ap Myrddin, Llywarch ap Myrddin, Lleucu Myrddin, Owain ap Myrddin ac i Cynwal ap Myrddin. Mae hefyd yn daid ers i'w fab Carwyn a'i briod Mari gael mab, Deio ap Carwyn yn haf 2018.

Gwaith

Cerddi a barddoniaeth

  • Llyfr Caneuon Tecwyn y Tractor (Rhys Parry, Myrddin ap Dafydd, Trefn. Guto Pryderi Puw) (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
  • Pen Draw'r Tir (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
  • Denu Plant at Farddoniaeth: Pedwar Pŵdl Pinc a'r Tei yn yr Inc (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)
  • Denu Plant at Farddoniaeth: Cerddi ac Ymarferion: Cyfrol 1 - Armadilo ar ... (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
  • Jam Coch Mewn Pwdin Reis (Hughes a'i Fab, 2000)
  • Syched am Sycharth: Cerddi a Chwedlau Taith Glyndŵr (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
  • Llyfrau Lloerig: Y Llew Go Lew (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
  • Clawdd Cam (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
  • Clywed Cynghanedd: Cwrs Cerdd Dafod (Gwasg Carreg Gwalch, 1994; 2/2003)
  • Cerddi Cyntaf (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)

Llyfrau plant Cymraeg

  • Cyfres y Llwyfan: Ar y Gêm (Gwasg Carreg Gwalch, 1982)
  • Cyfres y Llwyfan: Ail Godi'r To (Gwasg Carreg Gwalch, 1986)
  • Gweld Cymru: Hwyl wrth Ddod i Adnabod Gwlad (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
  • Golau ar y Goeden: Arferion, Straeon a Cherddi Nadolig (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
  • Syniad Da Iawn! (Sioned Wyn Huws, Myrddin ap Dafydd, Haf Llewelyn, Martin Morgan, Eleri Llewelyn Morris) (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
  • Cyfres Mewnwr a Maswr: 1. Brwydr y Brodyr (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
  • Cyfres Straeon Plant Cymru 1: Straeon y Tylwyth Teg (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
  • Cyfres Straeon Plant Cymru 2: Ogof y Brenin Arthur (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
  • Cyfres Straeon Plant Cymru 3: Gelert, Y Ci Ffyddlon (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
  • Cyfres Straeon Plant Cymru 4: Barti Ddu Môr-leidr o Gymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
  • Odl-Dodl Dolig (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
  • Cyfres Straeon Plant Cymru 5: Meini Mawr Cymru(Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
  • Cyfres Straeon Plant Cymru 6: Draig Goch Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
  • Mae'r Lleuad yn Goch (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)
  • Goron yn y Chwarel (Gwasg Carreg Gwalch, 2019)
  • Drws Du yn Nhonypandy (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
  • Ffoi Rhag y Ffasgwyr (Gwasg Carreg Gwalch, 2022)
  • Nadolig y Gath yn Sain Ffagan (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)
  • Mistar ar Fistar Mostyn (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)

Llyfrau plant Saesneg

  • Tales from Wales 1: Fairy Tales from Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
  • Tales from Wales 2: King Arthur's Cave (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
  • Tales from Wales 3: The Faithful Dog Gelert (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
  • Tales from Wales 4: Black Bart (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
  • Tales from Wales 5: Stories of the Stones (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
  • Tales from Wales 6: The Red Dragon of Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)

Llyfrau oedolion

  • Llyfrau Llafar Gwlad: 37. Enwau Cymraeg ar Dai (Gwasg Carreg Gwalch, 1997)[6]
  • Circular Walks e.e. "Carmarthenshire Coast and Gower Circular Walks" [7]
  • Cyfres "Welcome to..." e.e. "Welcome to Bermo (Barmouth)"[8]

Crynoddisgiau

  • Caneuon Tecwyn y Tractor (Cwmni Recordiau Sain, 2004)
Remove ads

Gwobrau ac anrhydeddau

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads