Dafydd Parri
nofelydd Cymraeg From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Awdur Cymraeg oedd Dafydd Parri (29 Gorffennaf 1926 – 29 Tachwedd 2001)[1] a ddaeth yn fwyaf adnabyddus am ei gyfresi poblogaidd o lyfrau ffuglen i blant yn cynnwys Cyfres y Llewod a Chyfres Cailo. Bu farw yn 75 oed yng Nghartref y Bont, Llanrwst wedi gwaeledd hir.[2]
Remove ads
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd yn Rowen, Sir Conwy a fe'i hyfforddwyd fel athro yng Ngholeg Normal, Bangor.[1]
Gyrfa
Dysgu
Aeth i ddysgu mewn amryw ysgolion yn Sir y Fflint cyn cymryd swydd athro Hanes a Daearyddiaeth yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Roedd yn un o'r criw dedwydd o addysgwyr a weithiodd yn galed i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg i ogledd-orllewin Cymru. Cynhyrchodd ddeunydd ar gyfer gwerslyfrau daearyddiaeth yn Gymraeg ar gyfer yr ysgolion newydd dwyieithog.[1]
Gwerthu llyfrau
Gyda'i wraig bu'n gwerthu llyfrau drwy ymweld â chymdeithasau Cymraeg yn Sir y Fflint, Sir Gaer ac ardal Wrecsam, cyn sefydlu siop lyfrau a recordiau Cymraeg yn Llanrwst yn 1955. Roedd ei wraig yn rhedeg y siop tra oedd Dafydd yn gweithio fel athro. Symudodd eu merch Gwawr Dafydd yn ôl i'r ardal ar ddechrau'r 1980au i sefydlu busnes gwasanaeth swyddfa 'Bys a Bawd' a phan ymddeolodd ei mam o'i gwaith llawn amser yn 1986 fe unwyd y siop lyfrau gyda'r busnes.[3] Fe aeth y siop ar werth yn 2007 a fe'i prynwyd gan Dwynwen Berry.[4]
Awdur
Daeth yn awdur cynhyrchiol yn y 1970au.[2] Rhwng 1975 a 1980 ysgrifennodd dros 30 o lyfrau yn cynnwys 23 stori antur i blant yng Nghyfres y Llewod a chyfres am gi defaid o'r enw Cailo. Ysgrifennodd dwy gyfrol o storïau byr ar gyfer oedolion hefyd, Nos Lun a Storïau Eraill (1976) a Bwrw Hiraeth (1981).[5] Ail-gyhoeddwyd pump o gyfres y Llewod ar ddiwedd y 1990au.[6]
Remove ads
Bywyd personol
Priododd Arianwen Walters yn 1953 ac roedd ganddynt un ferch, Gwawr Dafydd a phedwar mab: yn cynnwys y prifardd ac awdur Myrddin ap Dafydd[7], y dyn busnes Deiniol ap Dafydd a'r darlledwr Iolo ap Dafydd.[8]
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads