Neuralink
cwmni niwrodechnoleg Americanaidd a gychwynwyd gan Elon Musk From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Neuralink Corp.[1] yn gwmni niwrodechnoleg Americanaidd sy'n datblygu rhyngwynebau ymennydd-cyfrifiadur y gellir eu mewnblannu (BCI). Lleolir y cwmni yn Fremont, California, ac fe'i sefydlwyd yn 2016 gan Elon Musk gyda thîm o saith gwyddonydd.[2][3][4][5]
Ers ei sefydlu, mae'r cwmni wedi cyflogi nifer o niwrowyddonwyr proffil uchel o wahanol brifysgolion.[6] Erbyn Gorffennaf 2019, roedd wedi derbyn $158 miliwn mewn cyllid (gyda $100 miliwn ohono gan Musk ei hun) ac roedd yn cyflogi staff o 90 o weithwyr.[7] Bryd hynny, cyhoeddodd Neuralink ei fod yn gweithio ar ddyfais "tebyg i beiriant gwnïo" sy'n gallu mewnblannu edafedd tenau iawn (4 i 6 μm o led[8] ) yn yr ymennydd, a dangoswyd system sy'n darllen gwybodaeth o lygoden fawr trwy 1,500 o electrodau. Ym Mai 2023, cawsant eu cymeradwyo i greu treialon dynol yn yr Unol Daleithiau.[9]
Mae'r cwmni wedi wynebu beirniadaeth am arbrofi a lladd llawer iawn o brimatiaid yn dilyn treialon mewn labordai. Roedd cofnodion milfeddygol o'r mwncïod yn dangos nifer o gymhlethdodau gydag electrodau'n cael eu mewnblannu yn eu hymennydd drwy lawdriniaeth.
Remove ads
Cwmni
Sefydlwyd Neuralink yn 2016 gan Elon Musk a thîm sefydlu o saith gwyddonydd a pheiriannydd.[10][11] Roedd y grŵp llogi cychwynnol yn cynnwys arbenigwyr mewn meysydd fel niwrowyddoniaeth, biocemeg a roboteg.[12] Prynwyd y nod masnach "Neuralink" gan ei berchnogion blaenorol ym Ionawr 2017.[13][14]
Yn Ebrill 2017, cyhoeddodd Neuralink ei fod yn anelu at wneud dyfeisiau i drin clefydau difrifol yn yr ymennydd yn y tymor byr, gyda'r nod yn y pen draw o wella 'r claf, sef yr hyn a elwir weithiau yn drawsddynoliaeth.[15][16][17] Roedd Musk wedi dweud bod ei ddiddordeb yn y syniad yn deillio'n rhannol o'r cysyniad ffuglen wyddonol o “les niwral” fel y caiff ei ddisgrifio yn y bydysawd ffuglennol yn The Culture, cyfres o 10 nofel gan Iain M. Banks a gychwynnodd ei sgwennu yn 1987.[17][18]
Allan o'r saith gwyddonydd cyntaf, erbyn 2022, dim ond dau oedd yn parhau mewn swydd.[19]
Cysylltyddion (y gwifrau)
Mae'r gwifrau (probes) yn cynnwys polyimid yn bennaf, deunydd bio-gydnaws, gyda dargludydd aur neu blatinwm tenau, yn cael eu gosod yn yr ymennydd trwy broses otomataidd a berfformir gan robot llawfeddygol. Sonir am "stribed o blatiwmwn" yn Y Dydd Olaf drosod a drosodd. Mae pob cysylltydd yn cynnwys nifer o wifrau sy'n cynnwys electrodau sy'n gallu lleoli signalau trydanol yn yr ymennydd, ac ardal synhwyraidd lle mae'r wifren yn rhyngweithio â system electronig sy'n chwyddo ac yn 'siarad' gyda signalau'r ymennydd. Mae pob cyswllt yn cynnwys 48 neu 96 o wifrau, pob un ohonynt yn cynnwys 32 electrod annibynnol, gan wneud system o hyd at 3,072 o electrodau fesul ffurfiad.[8]
Robot llawfeddygol
Dywed Neuralink eu bod wedi creu robot llawfeddygol sy'n gallu gosod llawer o wiars ymchwiliol hyblyg yn gyflym yn yr ymennydd, a allai osgoi problemau difrodi'r meinwe a materion hirhoedlog sy'n gysylltiedig â weiars llai hyblyg.[20][21][22] Mae gan y robot llawfeddygol hwn nodwydd gyda diamedr 40 μm wedi'i wneud o twngsten - rheniwm a gynlluniwyd i gysylltu â'r dolenni mewnosod, chwistrellu weiars unigol, a threiddio'r meninges a meinwe'r ymennydd; gall osod hyd at chwe gwifren (192 electrod) y funud.[20]
Remove ads
Profion dynol
Derbyniodd Neuralink gymeradwyaeth yr FDA ar gyfer treialon clinigol dynol ym Mai 2023. Yn 2022 gwrthododd yr FDA cais i fynd ar drywydd treialon clinigol dynol gan nodi "pryderon diogelwch mawr yn ymwneud â batri lithiwm y ddyfais; y potensial i wifrau bychan y mewnblaniad fudo i rannau eraill o'r ymennydd; a chwestiynau ynghylch sut y gellir tynu'r ddyfais heb niweidio meinwe'r ymennydd."[23]
Ar 19 Medi 2023, dechreuodd Neuralink ei dreialon dynol cyntaf gan recriwtio cleifion.[24][25]
Remove ads
Gweler hefyd
- Y Dydd Olaf, nofel Gymraeg gan Owain Owain a shwennwyd yn 1967-8
- Trawsddynoliaeth
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
