Ras yr Wyddfa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ras a gynhelir yn flynyddol o bentref Llanberis yng Ngwynedd i gopa'r Wyddfa ac yn ôl yw Ras yr Wyddfa neu Ras Ryngwladol yr Wyddfa.
Dechreuodd y ras pan awgrymodd Ken Jones o Lanberis ym mhwyllgor Carnifal Llanberis y dylid trefnu ras o'r pentref i gopa'r Wyddfa ac yn ôl. Cynhaliwyd y ras gyntaf ar 19 Gorffennaf 1976, pan enillodd Dave Francis o Fryste mewn 1 awr 12 munud 05 eiliad.
Mae'r ras yn awr yn cychwyn ger glannau Llyn Padarn. Y record hyd yma yw 1 awr 2 funud a 29 eiliad gan Kenny Stuart o Keswick yn 1985. Y record i gopa'r Wyddfa yw 39 munud a 47 eiliad gan Robin Bryson o Iwerddon. Recordiau'r merched yw 1a 12m 48e am y ras nôl a blaen, a 47m 07e i'r copa, y ddau record wedi'u cwblhau gan C. Greenwood ym 1993.
Mae Radio Cymru yn darlledu yn fyw o'r ras a mae S4C yn darlledu rhaglen o uchafbwyntiau y diwrnod canlynol. Yn y 2010au mae'r wefan swyddogol yn cynnwys traciwr byw o'r cystadleuwyr ac yn 2016 defnyddiwyd technoleg 'Facebook Live' i ffrydio'n fyw o linell derfyn y ras.
Remove ads
Canlyniadau
Yn 2025, roedd un rhedwr wedi rhedeg pob ras, yn flynyddol, ers dechrau'r rasys yn 1976, sef Malcolm Jones, brawd yr actor Mici Plwm.[1][2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Dolen allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads