Dinasoedd Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae gan Gymru saith dinas. Bangor yw dinas gadeiriol hynaf Cymru, a Tyddewi yw dinas leiaf y Deyrnas Unedig.[1] Caerdydd yw prifddinas Cymru a'r ddinas fwyaf poblog, ac Abertawe yw'r ail fwyaf poblog. Ers 2000, mae trefi Cymru wedi cyflwyno ceisiadau i ennill statws dinas fel rhan o ddathliad megis dathliadau’r mileniwm, gyda Chasnewydd, Llanelwy a Wrecsam yn cael statws dinas drwy’r cystadlaethau hyn. Wrecsam yw’r mwyaf diweddar i ennill y statws, ac fe’i dyfarnwyd ym mis Medi 2022.
- Gweler hefyd: Prifddinas Cymru
Remove ads
Rhestr o ddinasoedd Cymru
Remove ads
Caerau y 6g
- Gweler hefyd: 28 Caer Prydain
Nodwyd y 28 dinas yn Historia Brittonum (ysgrifenwyd yn 9g) a disgrifiodd Gildas yn 536OC Ynys Brydain wedi'i gwneud yn prydferth harddu gan wyth ar hugain o ddinasoedd "civitatibus" gan gynnwys y canlynol yng Nghymru:[2]
- Cair Guorthigirn: Craig Gwrtheyrn
- Cair Mingui: Trefynwy
- Cair Pouis: Dinas Powys (bryngaer)
- Cair Dam: Caerdydd
- Cair Guidcon: Trellech Grange
- Cair Segeint: Caernarfon
- Cair Legion Guar Uisc: Caerllion
- Cair Guent: Caer-went
- Cair Uyrtin: Caerfyrddin
- Cair Cinmarc: St Kinemark, Cas-gwent
- Cair Cel Einion: Llandogo[2]
Dyma restr o lefydd eraill yng Nghymru gyda'r term "Caer" heddiw:
- Caerau, Morgannwg
- Caereinion, Maldwyn (Caer Einion)
- Caerfallwch, Sir y Fflint (Caer Afallach)
- Caerfarchell, Sir Benfro (Caer Marchell)
- Caergeiliog, Ynys Môn (Caer y chwilod)
- Caergwrle, Sir y Fflint (Caer Corley)
- Caerffili, Morgannwg (Caer Ffili)
- Caerhun, Sir Gaernarfon (Caer Rhun)
- Caersws, Maldwyn (Caer Swswen)
- Caeriw, Sir Benfro
- Gaerwen, Ynys Môn (Caer wen)
- Caergybi, Ynys Môn (Caer Cybi)
- Caer Beris
Remove ads
Canol Oesoedd

Bu Bangor yn ddinas gadeiriol ers y 6ed ganrif[1] ac esgobaeth hynaf Cymru, a sefydlwyd yn 550OC gan Sant Deiniol.[7]
Wrth edrych yn ôl ar y canol oesoedd gellir ystyried Abaty Ystrad Fflur fel y prifddinas, lle cynhaliodd Llywelyn Fawr gyngor yn 1238; ac yna Machynlleth, lle cynhaliwyd Senedd Owain Glyndŵr yn 1404.[11]
Ceisiadau dinas modern
Ers 2000, mae trefi Cymru wedi cystadlu mewn gornest i ennill statws dinas, fel rhan o anrhydeddau dinesig mewn dathliadau nodedig, fel dathliadau’r mileniwm neu jiwbilî’ sofran y pryd. Beirniadwyd gornest 2000 am beidio â chyhoeddi dinas Cymreig llwyddiannus.[12][13][14] Cynigwyd Merthyr Tudfil ar gyfer 2022 ond ni wnaed cais ar ôl adborth a phleidlais y cyngor.[15]
- Aberystwyth — 2000 (colli)[12]; 2002 (colli)[5][16]
- Machynlleth — 2000 (colli)[12]: 2002 (colli)[5][16]
- Casnewydd — 2000 (colli)[12][17]; 2002 (ennill)[5][16]
- Y Drenewydd — 2000 (colli)[12]; 2002 (colli)[5][16]
- Llanelwy — 2000 (colli)[12]; 2002 (colli)[5][16]; 2012 (ennill)[9]
- Wrecsam — 2000 (colli)[12][13]; 2002 (colli)[5][16]; 2012 (colli)[9]: 2022 (ennill)[18][19][20]
Dinas Diwylliant
Ymgeisiodd Wrecsam yn aflwyddiannus i fod yn dinas diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2025 ac mae'n bwriadu gwneud cais arall ar gyfer 2029.[21]
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads