Robert Fisk

From Wikipedia, the free encyclopedia

Robert Fisk
Remove ads

Awdur a newyddiadurwr o Loegr oedd Robert Fisk (12 Gorffennaf 194630 Hydref 2020) a oedd yn ddinesydd Prydeinig a Gwyddelig.[1][2]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Roedd yn ohebydd rhyngwladol a ysgrifennodd am y rhyfeloedd cartref yn Lebanon, Algeria a Syria, Rhyfel Irac ac Iran, y rhyfeloedd ym Mosnia a Chosofo, y Chwyldro Islamaidd yn Iran, ymosodiad Saddam Hussen ar Coweit, ymosodiad a meddiannaeth Iraq gan yr Unol Daleithiau. Roedd yn rhugl yn Arabeg,[3] ac ymhlith y newyddiadurwyr Gorllewinol prin i gyfweld ag Osama bin Laden, gan wneud hynny deirgwaith rhwng 1993 a 1997.[4][5]

Cychwynnodd ei yrfa ar y Sunday Express. Aeth ymlaen i weithio ar The Times fel gohebydd yng Ngogledd Iwerddon, Portiwgal a'r Dwyrain Canol lle'r oedd wedi ei leoli yn Beirut yn achlysurol ers 1976. Wedi 1989, bu'n gweithio i'r Independent.[6] Enillodd Fisk nifer o wobrau newyddiaduraeth Prydeinig a rhyngwladol, yn cynnwys y wobr Newyddiadurwr Tramor y Flwyddyn saith o weithiau.[1]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads