Rouen

From Wikipedia, the free encyclopedia

Rouen
Remove ads

Dinas yn Normandi yng ngogledd-orllewin Ffrainc yw Rouen. Hi oedd prifddinas hanesyddol Normandi, ac mae'n brifddinas région Normandi a département Seine-Maritime. Saif ar Afon Seine. Yn 2007, roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 541,410, ac amcangyfrifwyd fod poblogaeth y ddinas ei hun yn 109,000.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Rouen
Thumb
Calon hanesyddol Rouen: yr afon a'r eglwys gadeiriol.

Sefydlwyd Rouen fel Ratumacos gan lwyth Celtaidd y Veliocassi. Galwai'r Rhufeiniaid y ddinas yn Rotomagus. Wedi i dalaith Gallia Lugdunensis gael ei rhannu'n ddau dan yr ymerawdwr Diocletian, daeth Rouen yn brifddinas Gallia Lugdunensis II.

O 912, Rouen oedd prifddinas Dugiaeth Normandi ac yno yr oedd Dugaid Normandi yn byw hyd nes i Gwilym Goncwerwr adeiladu castell yn Caen. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, ildiwyd y ddinas i'r Saeson yn 1419. Yma y llosgwyd Jeanne d'Arc ar 30 Mai, 1431. Cipiodd y Ffrancod y ddinas yn ôl yn 1449.

Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf roedd Rouen yn ganolfan cyflenwadau bwysig, ac yr oedd yno nifer o ysbytai milwrol.

Remove ads

Adeiladau

Pobl o Rouen

  • Edward IV (1442–1483), brenin Lloegr
  • Pierre Corneille (1606–1684), dramodydd
  • Nicolas Lemery (1645–1715), cemegydd
  • Jean Jouvenet (1647–1717), arlunydd
  • Gustave Flaubert (1821–1880), nofelydd, awdur Madame Bovary
  • Marcel Dupré (1886–1971), organydd a chyfansoddwr
  • François Hollande (ganed 1954), gwleidydd ac Arlywydd Ffrainc
  • David Trezeguet (ganed 1977), pêl-droediwr

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads