Ruby Evans
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gymnast artistig o Gymru yw Ruby Grace Evans (ganwyd 17 Mawrth 2007). Mae hi'n rhan o dîm Prydain, ac roedd hi'n rhan o'r tim enillodd medal arian yn Nhwrnament Ewropeaidd 2024 ac mae hi wedi bod yn bencampwr gogledd Ewrop bump gwaith
Remove ads
Bywyd personol
Ganwyd Ruby yng Nghaerdydd yn 2007. Dechreuodd gymnasteg pan oedd yn bump oed.[1] Ei chlwb gymnasteg cyntaf oedd Clwb Gymnasteg Olympaidd Caerdydd. Yn 2024, roedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd.
Gyrfa gymnasteg iau
2019
Cystadlodd Ruby yn ei Phencampwriaeth Cymru cyntaf yn 2019, cipiodd y drydedd wobr gyffredinol yn yr adran espoir. Mis yn ddiweddarach, bu'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Prydain lle chafodd ail ar y llawr a seithfed yn gyffredinol.
2022
Yn gynnar yn 2022, cystadlodd Ruby ym Mhencampwriaeth Cymru a Phrydain, gan ennill y categori iau yn y ddau. Yn mis Gorffennaf, aeth i 'European Youth Olympic Festival' lle helpodd Prydain Fawr i orffen yn y chweched safle. Yn unigol, enillodd arian ar y llofnaid. Ym mis Awst, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Ewrop lle helpodd Prydain i orffen yn bedwerydd. Yn unigol, gorffennodd yn bedwerydd a thrydydd ar ddeg yn gyffredinol.
Ym mis Tachwedd, cystadlodd ym mhencampwriaeth Gogledd Ewrop. Helpodd Cymru i ennill fel tîm. Yn unigol, enillodd aur ar y llofnaid.[2]
Remove ads
Gyrfa gymnasteg hŷn
2023
Ers 2023 mae Ruby yn gymwys i gystadlu mewn cystadlaethau gymnasteg 'hŷn'. Gwnaeth ei début hŷn ar gyfer Prydain yng Nghwpan Byd Cottbus lle enillodd arian ar y llofnaid ac efydd ar y llawr.[3] Ym mhencampwriaeth Cymru, roedd Ruby'n ail tu ôl i Poppy-Grace Stickler. Ym mhencampwriaeth Prydain, roedd hi'n bumed yn gyffredinol ac enillodd aur ar y llofnaid.
Yn mis Medi, cafodd Ruby ei dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd 2023 gyda Jessica Gadirova, Alice Kinsella, Ondine Achampong, a Georgia-Mae Fenton. Ruby oedd y gymnast gyntaf o Gymru mewn 17 mlynedd i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd. Yn y bencampwriaeth, gorffennodd tîm Prydain yn chweched yn y rownd derfynol.
I orffen 2023, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Gogledd Ewrop. Helpodd Cymru i ennill y gystadleuaeth tîm ac yn unigol enillodd aur yn gyffredinol ac ar y llawr.
2024
Dechreuodd 2024 ym Mhencampwriaeth Cymru, lle bu'n gyntaf yn gyffredinol, ar y llofnaid, barrau anghyflin ac ar y llawr. Cystadlodd fel gwestai ym mhencampwriaeth Lloegr, lle bu'n gyntaf ar y llawr ac yn ail ar y trawst. Ym mhencampwriaeth Prydain, bu'n ail yn gyffredinol. Aeth Ruby i bencampwriaeth Ewropeaidd yn nhîm Prydain gydag Ondine Achampong (yn ddiweddarach wedi amnewid gydag Abigail Martin), Alice Kinsella, Becky Downie, a Georgia-Mae Fenton. Helpodd y tîm i orffen yn ail tu ôl i'r Eidal.
Yn mis Mehefin, cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 gyda Downie, Kinsella, Fenton, and Martin. Ruby yw'r gymnastwraig cyntaf o Gymru i fynd i'r Gemau Olympaidd ers Sonia Lawrence yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1996.[4]
Hanes Cystadlu
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
