Y Fam Teresa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Lleian Gatholig a chenhades o dras Albaniaidd oedd y Fam Teresa (ganwyd Agnes Gonxhe Bojaxhiu) (26 Awst 1910 – 5 Medi 1997) yn ninas Skopje sydd heddiw yng Ngweriniaeth Macedonia.
Yn ddeunaw oed, gadawodd Agnes ei chartref i ddod yn lleian ac i weithio fel cenhades gyda sefydliad Chwiorydd Loreto yng Ngweriniaeth Iwerddon, ble dysgodd hi Saesneg, yr iaith a ddefnyddiwyd gan leianod i addysgu plant yn India.[1] Ni welodd ei mam na'i chwaer wedi hyn. Yna symudodd i India i weithio fel athrawes daearyddiaeth mewn ysgol yn y wlad honno. Yn ystod y cyfnod hwn, newidodd hi ei henw i Teresa, ar ôl nawddsant cenadesau. Yn 1952, sefydlodd y Fam Teresa gartref i gysuro pobl a oedd yn marw ac yn dioddef mewn hen deml Hindŵaidd yn ninas Calcutta a oedd eisoes yn anghyfannedd. Gelwir y sefydliad yma yn Kalighat Home for the Dying. Fe enillodd hi Wobr Heddwch Nobel yn 1979 am ei gwaith yn helpu'r tlawd a'r bobl a oedd yn marw. Fe farwodd hi ar y pumed o Fedi 1997. Wedi ei marwolaeth, am ei gweithredoedd dyngarol yn ystod ei bywyd, gwynfydwyd hi gan y Pab Ioan Pawl II.
Remove ads
Maes Awyr
Yn 2002 ail-enwyd maes awyr Rinas yn Faes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa mewn cydnabyddiaeth i waith ac enwogrwydd y Fam Teresa. Lleolir yr awyrfa 11 km o'r brifddinas, Tirana. Dyma brif faes awyr Albania.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads