tref a chymuned yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Saltney ( ynganiad ). Hen enw Cymraeg ar y lle oedd "Morfa Caer". Saif ger y briffordd A5104 ar ochr gorllewinol dinas Caer, bron ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae i bob pwrpas yn un o faesdrefi Caer.
Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Saltney, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.179°N 2.922°W |
Cod OS | SJ375645 |
Cod post | CH4 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au | Mark Tami (Llafur) |
Ar un adeg roedd diwydiannau megis adeiladu llongau a distyllu olew yn bwysig yma. Erbyn hyn, cymerwyd eu lle gan ddiwydiannau ysgafn a pharciau busnes.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 4,769. Dim ond 13.1% o'r rhain oedd ag unrhyw wybodaeth o'r Gymraeg, y ganran isaf o unrhyw un o gymunedau Sir y Fflint.
Tua hanner milltir i'r gorllewin ceir pentref bychan Saltney Ferry.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Saltney (pob oed) (5,132) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Saltney) (321) | 6.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Saltney) (902) | 17.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Saltney) (640) | 29.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.