Y Berwyn
cadwyn mynyddoedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cadwyn hir o fryniau sy'n rhedeg rhwng Bwlch y Groes, ger Aran Benllyn, i gyffiniau Corwen a Llangollen yw'r Berwyn. Mae'n ffurfio ffin naturiol rhwng Edeirnion, neu Penllyn (dwyrain Meirionnydd, Gwynedd) a Maldwyn, Powys. Ei bwynt uchaf yw Moel Sych (2,713').
Remove ads
Geirdarddiad
Mae'n bosibl fod yr enw yn golygu "Bryn(iau) Gwyn (ap Nudd)" (Cymraeg Cynnar bre 'hill' yn troi'n ber + Gwyn), yn ôl T. Gwynn Jones ac eraill, ac felly'n dwyn enw Gwyn ap Nudd, brenin Y Tylwyth Teg.[1]
Disgrifiad

Yn y gorllewin mae'r Berwyn yn dechrau ger Bwlch y Groes, hanner ffordd rhwng pentrefi Mallwyd a Dinas Mawddwy a phentref Llanuwchllyn ar lan Llyn Tegid. Mae'r gadwyn yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am o gwmpas pymtheg milltir. Y copa cyntaf yw Foel y Geifr, sy'n edrych i lawr ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy a bryniau Powys Fadog. Mae dwy lôn fynydd yn croesi'r ucheldir undonog rhwng y copa hwnnw a Chadair Berwyn (2230'), y gyntaf yn cysylltu Abertridwr ar lan Efyrnwy â'r Bala a'r llall yn mynd o'r Bala i Langynog ac ymlaen i'r Trallwng.
Gorwedd y rhan uchaf o'r Berwyn rhwng Bwlch y Filltir Gerrig ar y lôn olaf honno a Glyndyfrdwy. Mae'r copaon, sydd ddim yn greigiog, yn cynnwys Cadair Berwyn a'i gymydog Moel Sych (2713'), Cadair Fronwen (2572'), Pen-plaenau (1775') a Moel Fferna (2071'). Daw'r Berwyn ei hun i ben uwchlaw Nantyr yng Nglyndyfrdwy, rhwng Corwen a Llangollen.
Nid yw'n gadwyn greigiog, er bod ambell glogwyn, ond yn hytrach mae'n gyfres o foelau agored, grugog iawn, sy'n lle da i adar y mynydd, fel y Cwtiad Aur. Y gadwyn debygach iddi yng Nghymru yw'r Carneddau yng ngogledd Eryri, ond bod y Berwyn yn is a llai syrth.
Ar odrau dwyreiniol y Berwyn ceir sawl llecyn braf diarffordd, fel Llyn Efyrnwy, Pennant Melangell a'i eglwys hynafol, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Pistyll Rhaeadr a Dyffryn Ceiriog. I'r gogledd mae llethrau coediog Coedwig Penllyn, y Bala a Llyn Tegid, Dyffryn Edeirnion a Chorwen.
Remove ads
Bywyd gwyllt
Mae'r ardal yn gartref i sawl rhywogaeth o adar yr ucheldir, gan gynnwys adar ysglyfaeth fel y Boda tinwyn (Circus cyaneus), y Llamsydyn (Falco columbarius), a'r Hebog tramor (Falco peregrinus) (tua 14-18 o bariau bridiau yn achos pob un o'r rhywogaethau hyn, 1-2% o'r cyfanswm poblogaeth yng ngwledydd Prydain), ac felly'n Ardal Warchod Arbennig. Mae bywyd gwyllt arall yn cynnwys tylluanod clustiog, cigfrain, bodaon, ffwlbartiaid a'r plufynnau aur.
Copaon

Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Darllen pellach
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

