Penllyn

ardal sydd o gwmpas Llyn Tegid a'r Bala ym Meirionnydd From Wikipedia, the free encyclopedia

Penllyn
Remove ads

Penllyn yw'r ardal sydd o gwmpas Llyn Tegid a'r Bala ym Meirionnydd (de-ddwyrain Gwynedd). Mae'n cynnwys plwyfi Llandderfel, Llanfor, Llangywair, Llanycil a Llanuwchllyn. Mae Penllyn yn ardal sy'n enwog am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru a llenyddiaeth Gymraeg. Dyma ardal "Y Pethe", chwedl Llwyd o'r Bryn.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Ffeithiau sydyn
Erthygl am yr ardal yng Ngwynedd yw hon. Am y pentref ym Mro Morgannwg gweler Pen-llin (Penllyn). Am yr orynys yng ngogledd-orllewin Cymru gweler Pen Llŷn.
Remove ads

Cantref Penllyn

Yn Oes y Tywysogion cantref oedd Penllyn. Cynhelid ei lys yng Nghaer Gai, ger Llyn Tegid, ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i'r Bala. Roedd yn gantref ar y ffin rhwng teyrnas Gwynedd a Phowys. Ymddengys iddo ddechrau fel arglwyddiaeth annibynnol. Cysylltir yr arwr chwedlonol Gronw Pebyr â Phenllyn ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Aeth yn rhan o deyrnas Powys yn y cyfnod cynnar. Roedd yn fan o bwys strategol yn gorwedd rhwng Ardudwy a Meirionnydd yn y gorllewin a Glyndyfrdwy yn y dwyrain a cheisiai tywysogion Gwynedd sicrhau meddiant arno er mwyn amddiffyn Gwynedd o ymosodiadau o du Powys a'r dwyrain. Fe'i cipiwyd yn derfynol gan Llywelyn Fawr ar ddechrau'r 13g. Ar ôl goresgyniad 1284 fe'i unwyd â Meirionnydd ac Ardudwy i greu Sir Feirionnydd.

Ymrennid Penllyn yn ddau gwmwd:

Remove ads

Rhai o enwogion Penllyn

Gweler hefyd

Darllen pellach

  • Geraint Bowen, Penllyn (1967)
  • Elwyn Edwards, Blodeugerdd Penllyn (1983)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads