Cyfieithiad benthyg

geiriau neu dermau sy'n gyfieithiad llythrennol o iaith arall From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Mewn ieithyddiaeth mae cyfieithiad benthyg yn derm ar gyfer gair neu ymadrodd benthyg am beth neu gysyniad sydd wedi ei chyfieithu'n llythrennol, gair-am-air neu wraidd-wrth-wraidd o iaith estron. Yn aml gall y gair neu'r ymadrodd benthyg wedi'i gyfieithu wneud dim synnwyr yn yr iaith darged heb wybod y cyd-destun neu ystyr y gair yn yr iaith ffynhonnell.

Cyfieithiad a benthyciad yw cyfieithiad benthyg ar yr un pryd. Er enghraifft, mae ci a poeth yn cyfateb i'r Saesneg dog a hot. Felly mae ci poeth ~ poethgi yn cyfieithu ar ddelw'r Saesneg hot dog.

Mae calque ei hun yn air benthyg o'r enw Ffrangeg calque ‘dargopi, trasiad; dynwared, copi agos’ (cynigir dynwarediad fel cyfieithiad Gymraeg o'r Saesneg calque yn Geiriadur yr Academi[1]). Mae'r ferf calquer yn golygu ‘dargopïo, trasio; dynwared yn agos’; papier calque yw papur trasio yn y Ffrangeg.[2] Mae gair benthyg ~ benthycair yn y Gymraeg ei hun yn cyfieithiad benthyg o'r Saesneg loanword sydd ei hun, yn ei dro, yn cyfieithiad benthyg o'r gair Almaeneg Lehnwort.[3]

Remove ads

Cyfieithiadau benthyg yn y Gymraeg

Mae cyfieithiadau benthyg yn frith yn yr iaith Gymraeg, yn enwedig yr iaith lafar. Er enghraifft:

  • llifolau, ar ddelw'r Saesneg floodlight
  • Gwlad yr Iâ, ar ddelw'r S. Iceland, ffrwyth camdarddiad poblogaidd o ice ‘iâ’ + land ‘gwlad’ (er bod yr enw'r wlad brodorol Islandeg Ísland yn golygu ‘ynys’, sy'n cyfateb i'r S. island)
  • llawysgrif, ar ddelw'r Lladin manūscrīptum ‘llawysgrifen, ysgrifen â’r llaw’ o'r geiriau manū- ‘llaw’ a scrīptum ‘ysgrifen’
  • llygoden, ar ddelw'r S. mouse cyfrifiadurol, y teclyn tywys ar y cyfrifiadur
  • rhai weithiau, ar ddelw'r S. sometimes
Remove ads

Cyfieithiad rhannol

Mae benthyciad cymysg(iaith) neu ran-cyfieithiad benthyg (loan blend neu partial calque yn y Saesneg) yn golygu cyfieithu'n llythrennol un rhan o'r gair gwreiddiol ond nid y llall.[4] Er enghraifft, mae'r enw ar y gwasanaeth digidol Gwyddelig, Saorview yn cyfieithiad rhannol gan ei fod yn defnyddio enw y gwasanaeth digidol Brydeinig, Freeview gan gyfieithu'r elfen flaenaf o'r Saesneg i'r Wyddeleg saor ond gadael yr ail elfen view yn ddi-gyfieithiad. Ymysg enghreifftiau eraill mae liverwurst ‘sosej iau / afu’ (< Almaeneg Leberwurst), apple strudel ‘strwdel afalau’ (< Alm. Apfelstrudel) a the Third Reich ‘y Drydedd Reich’ (< Alm. Drites Reich).

Remove ads

Cyfieithiadau benthyg ar ddelw'r Saesneg skyscraper

Enghraifft o gyfieithiad benthyg morffem-wrth-morffem mewn sawl iaith yw'r gair Saesneg skyscraper ‘entrychdy’, yn llythrennol ‘nen-grafwr’:

Remove ads

Dolenni

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads