Iolo ap Dafydd

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu a radio [o Gymru yw Iolo ap Dafydd (ganwyd Tachwedd 1963). Hyd at 2016 roedd yn Ohebydd Amgylchedd a Materion Gwledig BBC Cymru.[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Man preswyl ...

Daw ap Dafydd o Lanrwst, Dyffryn Conwy yn wreiddiol, ond bellach mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae'n fab i'r awdur plant Dafydd Parri.[2] Mae hefyd wedi treulio cyfnodau yn byw yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd, Israel a Seland Newydd.

Graddiodd o Adran Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor.[3] Bu'n gweithio fel ymchwilydd, is-gynhyrchydd a chyflwynydd rhai o raglenni HTV Cymru, Channel 4 ac S4C cyn ymuno â’r BBC ym 1993 fel Gohebydd Chwaraeon yn y Gymraeg ar raglen Newyddion BBC Cymru, ac fe’i enwebwyd â chanmoliaeth uchel ar gyfer gwobr BT Welsh Sports Journalist of the Year yn 2002. Aeth ymlaen i weithio fel gohebydd Ewropeaidd y BBC. Mae wedi cael y cyfle i adrodd y newyddion o bedwar ban y byd; o Efrog Newydd yn dilyn ymosodiadau 11 Medi, o Affganistan, Oman, Israel, Gwlad Iorddonen, Coweit ac Irac, roedd yn gohebu o Hilla pan ddarganfuwyd y beddau torfol.

Ymunodd â thîm rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ar ddydd Gŵyl Dewi 2004, ac bu hefyd yn gohebu ar raglen Week In Week Out yn 2004.[4]

Fe adawodd y BBC yn Ionawr 2016,[5] ac ymunodd â sianel TRT World yn Istanbul fel gohebydd newyddion.[6]

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads