Peter Mayhew
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Actor o Loegr a ddaeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau oedd Peter William Mayhew (19 Mai 1944 – 30 Ebrill 2019) a oedd yn fwyaf adnabyddus am bortreadu Chewbacca yn y gyfres ffilm Star Wars. Chwaraeodd y cymeriad mewn ymddangosiadau byw o'r ffilm wreiddiol yn 1977 hyd at The Force Awakens yn 2015 cyn iddo ymddeol o'r rôl.
Remove ads
Bywyd cynnar
Ganwyd Peter Mayhew ar 19 Mai 1944 yn Barnes, Surrey.[1] Nid oedd ei daldra o ganlyniad i gigantiaeth; "Does gen i ddim y pen mawr", meddai Mayhew pan ofynnwyd iddo am achos ei daldra.[2][3] Ei daldra uchaf oedd 7 troedfedd 3 modfeddi (2.21 m).[4]
Gwaith cynnar
Cafodd Mayhew ei swydd actio cyntaf ym 1976 pan fe'i ddarganfyddwyd gan gynhyrchwyr Sinbad and the Eye of the Tiger mewn erthygl papur newydd am ddynion â thraed mawr, ac fe'i ddewiswyd i chwarae rôl y minotaur.[5][6]


Wrth gastio ei ffilm Star Wars gyntaf, roedd y crëwr George Lucas angen actor tal a allai chwarae rhan yr aliwn blewog Chewbacca. Yn wreiddiol roedd yn ystyried y corffluniwr 6 troedfedd 6 modfeddi (1.98 m) David Prowse, ond dewisodd Prowse chwarae Darth Vader. Yn dilyn proses o chwilio gan Lucas, darganfu Mayhew, a oedd yn gweithio fel cynorthwywr yn adran radioleg Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain,[7] a dywedodd mai'r unig beth oedd rhaid iddo ei wneud i chwarae rhan Chewbacca oedd sefyll.[8][9]
Chwaraeodd Mayhew ran Chewbacca mewn pum ffilm Star Wars: y drioleg wreiddiol (Star Wars, The Empire Strikes Back a Return of the Jedi ), Star Wars: Pennod III - Revenge of the Sith a Star Wars: The Force Awakens.[10] Chwaraeodd y rôl yn y ffilm deledu Star Wars Holiday Special yn 1978 ac mewn ymddangosiad yn 1980 ar The Muppet Show. Cofnododd hefyd ddeialog ar gyfer pennod olaf Cyfres 3 "Star Wars: The Clone Wars" sef "Wookiee Hunt".[11][12]
Chwaraeodd Mayhew y rôl mewn hysbysebion, gwnaeth ymddangosiadau mewn ysbytai i blant sâl, ac ymddangosodd fel Chewbacca y tu allan i ffilmiau Star Wars. Cafodd Mayhew, yn ymddangos fel Chewbacca, ei anrhydeddu â Gwobr Cyflawniad Oes yng Ngwobrau Ffilm MTV 1997.[13] Yn ogystal, cafodd ei anrhydeddu pan ryddhawyd y PlayStation Portable newydd pan wisgodd fel Chewbacca a dal fyny fersiwn newydd y PSP.[14]
Gwnaeth hefyd ymddangosiadau eraill ar y cyfryngau heb chwarae Chewbacca. Ymddangosodd ar raglen NBC, Identity, lle'r oedd ei hunaniaeth yn seiliedig ar y ffaith iddo chwarae Chewbacca a roedd yn westai cyson yn nyddiau cynnar Slice of SciFi.[15]
Tra bod Mayhew wedi portreadu Chewbacca yn Star Wars: The Force Awakens, nid oedd yn Star Wars: The Last Jedi ond fe'i rhestrwyd yn y credydau fel "Chewbacca Consultant".[16] Ymddeolodd Mayhew o chwarae Chewbacca oherwydd problemau iechyd. Rhannodd Mayhew y gwaith o bortreadu Chewbaca gyda Joonas Suotamo yn Star Wars: The Force Awakens, a cymerwyd y rhan gan Suotamo mewn ffilmiau Star Wars a ddilynodd.[17][18]
Gwaith arall
Y tu allan i Star Wars, ymddangosodd Mayhew yn y ffilm arswyd arswyd Terror (1978), a gyfarwyddwyd gan Norman J. Warren.[19][20] Yn fersiwn Saesneg Dragon Ball GT: A Hero's Legacy, lleisiodd y cymeriad Susha [21] Ymddangosodd hefyd yn Yesterday Was A Lie.[22]
Llyfrau
Ysgrifennodd Mayhew ddau lyfr ar gyfer gynulleidfa iau: Growing Up Giant,[23] sy'n esbonio mai cryfder yw bod yn wahanol nid gwendid, a'r llyfr gwrth-fwlio i blant My Favorite Giant.[24]
Remove ads
Bywyd personol
Roedd Mayhew yn byw gyda'i wraig Mary Angelique ("Angie") yn Boyd, Texas,[25] ac roedd yn berchennog busnes. Cafodd ei dderbyn yn ddinesydd o'r Unol Daleithiau yn 2005 mewn seremoni yn Arlington, Texas.[26][27] Mewn cyfweliad gyda Fort Worth Star-Telegram dyweddodd nad oedd wedi cael medal yn y seremoni hon chwaith, cyfeiriad at olygfa Star Wars lle mae Luke Skywalker a Han Solo yn derbyn medalau ond nid Chewbacca. Nododd Mayhew mewn cyfweliad MTV, er nad yw Chewbacca yn cael medal yn y ffilm, mae ef sy'n cael y llinell olaf, pan mae'n bloeddio.[28]
Cafodd Mayhew lawdriniaeth amnewid pen-glin dwbl yn 2013.[29] Ym mis Ionawr 2015, aeth Mayhew i'r ysbyty am gyfnod byr, ger ei gartref yn Texas, oherwydd pwl o niwmonia.[30][31] Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Mayhew drwy Twitter ei fod wedi llwyddo i gael llawdriniaeth asgwrn cefn amhenodol i wella ei symudedd, a'i fod yn gwella.
Bu farw Mayhew o drawiad ar y galon ar 30 Ebrill 2019 yn ei gartref yn Boyd, Texas, yn 74 mlwydd oed.[32]
Remove ads
Ffilmyddiaeth
Ffilm
Teledu
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
