Pentref a chymuned ar arfordir gorllewinol Ynys Môn ydy Aberffraw ("y Berffro" ar lafar yn lleol). Saif rhwng Rhosneigr a Llangadwaladr, yng ngogledd Cymru. Mae'n cymryd ei enw o Afon Ffraw. Yn Oes y Tywysogion Aberffraw oedd maenor cwmwd Malltraeth, yng nghantref Aberffraw. Ers cyfnod cynnar iawn roedd yn gartref i brif lys teyrnas Gwynedd, cartref traddodiadol brenhinoedd a thywysogion Gwynedd.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Aberffraw
Thumb
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth597 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sircymuned Aberffraw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Ffraw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.195447°N 4.463519°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000001 Edit this on Wikidata
Cod OSSH3568 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auLlinos Medi (Plaid Cymru)
Thumb
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Cau

Hanes a thraddodiad

Mae'n debyg mai Aberfraw oedd un o'r aneddiadau olaf ym Môn a feddiannwyd gan y Rhufeiniaid yn ystod goresgyniad mona. heddiw, mae Aberffraw yn gymuned gymharol fach yn ne-orllewin Ynys Môn. Ond adeg yr Oesoedd Canol roedd yn brif lys i reolwyr teyrnas Gwynedd rhwng c.860 OC hyd c.1170. Hwn oedd canolbwynt eu pŵer.

Mae archaeoleg yn dangos bod Aberffraw wedi bod yn lleoliad pwysig hefyd mewn cyfnod cyn-hanesyddol. Canfuwyd fflintiau Mesolithig, Tomen Gladdu o’r Oes Efydd a chaer Rufeinig yma. Mae hefyd yn cael ei enwi yn Y Mabinogion fel y man lle priodwyd Branwen ferch Llŷr a Matholwch, Brenin Iwerddon.[1][2]

Mae tystiolaeth yn dangos ei bod hi’n ddigon posib bod maerdref (lle byddai’r taeogion yn byw), eglwys, llys a chaer wedi bod yn Aberffraw ers cyfnod Maelgwn Gwynedd, a oedd yn teyrnasu dros Wynedd yn y 6g OC.[3]

Dinistriwyd eglwys a phalas gwreiddiol Aberffraw yn dilyn ymgais Edward 1 i oresgyn Cymru. Adeiladwyd arddull Normanaidd newydd yn lle'r hen yn y 13g. O tua 860 ymlaen datblygodd Aberffraw i fod yn lleoliad llys Brenhinoedd Gwynedd. Roedd hwn yn dynodi dechrau llinach frenhinol a ddaeth i gael ei hadnabod fel Aberffraw, a barhaodd hyd 1282/3. Roedd Aberffraw yn borthladd pwysig ar gyfer masnachu a physgota, ac amddiffynnwyd ef gan Rhodri Mawr a Brenhinoedd Gwynedd rhag ymosodiadau oddi wrth y Llychlynwyr, y Gwyddelod a’r Normaniaid.[4]

Y llys yn Aberffraw oedd canolbwynt pŵer Teyrnas Gwynedd. Oddi yma roedd swyddogion yn casglu trethi ac yn gweinyddu’r gyfraith. Oherwydd ei statws fel llys brenhinol byddai hefyd wedi diddanu'r Brenin, ei deulu a’i wahoddedigion. Wedi ymosodiadau'r Normaniaid yng ngogledd Cymru yn 1086 dechreuodd cyflwr y llys ddirywio, ond cafodd ei atgyweirio a’i adnewyddu fel canolfan pŵer Owain Gwynedd wedi iddo ymsefydlu fel Brenin Gwynedd yn 1137.[5]

Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd yng Nghilmeri yn 1282, dinistriwyd llawer o’r llys canoloesol yn Aberffraw gan y Saeson, a chymerwyd cerrig oddi ar y safle er mwyn adeiladu cestyll Edward yng Nghaernarfon a Biwmares.[6] Mae cloddiadau yn yr ardal wedi dangos olion caer ganoloesol sy’n dangos nodweddion Rhufeinig neu ôl-Rufeinig, a allai fod yn safle posibl i’r llys.[7] Tybir mai lleoliad Eglwys Sant Beuno heddiw oedd safle’r llys brenhinol.[8]

Defnyddiwyd rhannau o'r hen waith carreg yn yr eglwys wreiddiol o'r fed ganrif yn iard eiddo'r 'eryrod' ger sgwâr Aberffraw hyd at y 1af ganrif, lle defnyddiwyd rhai o'r cerrig hyn i adeiladu ysgol Soar.

Seremoni Agoriadol pont Aberffraw

Tra bod y bid gwreiddiol dros Afon Ffraw yn hen iawn, agorwyd y bont newydd sy'n cario'r A4080 ar y 4ydd o Fai 1932.

Eglwys Beuno

Dymunodd y Tywysog Belli i eglwys gael ei hadeiladu yn yr ardal, cysegrwyd yr eglwys gan Saint Bueno ar ddechrau'r 6ed ganrif. Mae tŵr yr eglwys hynafol hon yn nodwedd amlwg yn y pentref. Cysegrwyd yr eglwys i Beuno Sant. Mae ei chynllun corff dwbl yn fwy cyffredin yn Nyffryn Clwyd nag ar yr ynys. Mae'r rhan ddeheuol yn Normanaidd ei phensaernïaeth ac yn dyddio o'r 12g. Mae'r porth deheuol yn dyddio o'r 14g. Ailadeiladwyd y corff gogleddol yn y 19g ar seiliau o'r 16g.

Busnesau yn Aberffraw rhwng 1889-1890

  • Dyma restr o Fasnachwyr a Phurfilwyr yn Aberffraw ym 1889/90
  • Eliza Edwards, Siopwr
  • Evan Hughes, Siopwr
  • Owen Hughes, Perchennog Gwesty Temperance
  • Owen Hughes, Olwyn Wright
  • Ann Jones, Siopwr
  • J.W. Jones, Groser
  • Owen Jones, Cigydd
  • Richard Owen, Richard Owen, Landlord, Gwesty'r Tywysog Llywelyn
  • Richard Owen, Siopwr
  • Sarah Ann Owen, Siopwr
  • John Pritchard, Siopwr
  • John Robert, Groser
  • Henry. P Thomas, Fferyllydd a Groser
  • Owen Thomas, Masnachwr Glo
  • Catherine Williams, landlady, Tafarn y Goron
  • Hugh Williams, Landlord, Tafarn Cross Keys
  • John Williams, Landlord, Tafarn Porthdy Pysgota
  • Owen Williams, Gof
  • R.D. Williams, Melinydd
  • Thomas Williams, Teiliwr
  • William Williams, Masnachwr Glo[9]

Y pentref heddiw

Thumb
Hen bont Aberffraw

Heddiw, mae'n un o'r pentrefi ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Yn ôl Cyfrifiad 2001, poblogaeth y pentref oedd 599, gyda 79.8% yn siarad Cymraeg. Mae Traeth Aberffraw, gerllaw, yn draeth llydan, tywodlyd a deniadol, gyda golygfa dda dros Eryri.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[10][11][12]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberffraw (pob oed) (620)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberffraw) (409)
 
67.5%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberffraw) (438)
 
70.6%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberffraw) (132)
 
44.3%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Daearyddiaeth

Tarddiad Afon Ffraw yw Llyn Coron, tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, ac sy'n rhedeg heibio'r pentref, lle ceir pont fwaog a godwyd yn 1731 yn ei chroesi. Bellach mae pont ddiweddarach yn cludo'r A4080 dros yr afon. Mae'r pentref wedi ei leoli ar dir gwastad, tywodlyd braidd, ar lan ogleddol Afon Ffraw. I'r de o'r afon ceir Tywyn Aberffraw. Yr unig adeilad o ddiddordeb heddiw, ar wahân i'r hen bont, yw Eglwys Beuno.

Thumb
Tyddyn "Tyn Towyn" ger Porth Nobla; 18fed ganrif.

Atyniadau eraill

Nid nepell o Aberffraw mae Barclodiad y Gawres, carnedd gellog (neu garnedd siambr) gyn-hanesyddol hynod bwysig, ac Eglwys Sant Cwyfan ar Ynys Cribinau sydd wedi ei lleoli mewn llecyn anghyffredin iawn.

Enwogion

Am y tywysogion a gysylltir ag Aberffraw, gweler Teyrnas Gwynedd.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.