gwleidydd Cymreig ac AS From Wikipedia, the free encyclopedia
Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Llanelli yw Nia Rhiannon Griffith (ganwyd 4 Rhagfyr 1956).
Nia Griffith AS | |
---|---|
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru | |
Yn ei swydd | |
Dechrau 6 Ebrill 2020 | |
Arweinydd | Keir Starmer |
Cysgodi | Simon Hart |
Rhagflaenydd | Christina Rees |
Yn ei swydd 13 Medi 2015 – 27 Mehefin 2015 | |
Arweinydd | Jeremy Corbyn |
Cysgodi | Stephen Crabb Alun Cairns Simon Hart |
Rhagflaenydd | Owen Smith |
Olynydd | Paul Flynn |
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Amddiffyn | |
Yn ei swydd 6 Hydref 2016 – 6 Ebrill 2020 | |
Arweinydd | Jeremy Corbyn |
Cysgodi | Michael Fallon Gavin Williamson |
Rhagflaenydd | Clive Lewis |
Aelod Seneddol dros Llanelli | |
Yn ei swydd | |
Dechrau 5 Mai 2005 | |
Rhagflaenydd | Denzil Davies |
Mwyafrif | 7,095 (18.4%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Nia Rhiannon Griffith 4 Rhagfyr 1956 Dulyn, Iwerddon |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Alma mater | Coleg Somerville, Rhydychen Prifysgol Bangor |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Cafodd ei phenodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru gan arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn ar 13 Medi 2015,[1] gan ymddiswyddo ar 27 Mehefin 2016.[2]
Daw ei theulu o bentrefi glofaol ger Castell Nedd. Ganwyd hi yn Nulyn yn yr Iwerddon a'i haddysgu yn Ysgol Uwchradd Newland yn Hull a Choleg Somerville, Rhydychen. Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Ieithoedd Modern yno. Dilynodd gwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a bu'n athrawes, yn ymgynghorydd addysg ac Arolygwr Estyn cyn dod yn Aelod Seneddol. Mae'n medru siarad pum iaith: Cymraeg; Saesneg; Eidaleg; Ffrangeg a Sbaeneg.
Fe etholwyd Nia i'r Tŷ'r Cyffredin yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, yn dilyn ymddeoliad Denzil Davies. Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 7,234 o bleidleisiau. Traddododd ei haraith gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar Fai’r 19eg, 2005 . Yn y Senedd, mae hi’n aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn ogystal â’r Pwyllgor Archwilio Ewropeaidd.
Ymunodd Nia Griffith â’r Blaid Lafur ym 1981. Yn y gorffennol, bu hi’n Ysgrifenyddes Plaid Lafur Sir Gaerfyrddin. Etholwyd hi yn Gynghorydd i Gyngor Tref Caerfyrddin ym 1987. Gwasanaethodd fel Siryf ym 1997 a Dirprwy Faer ym 1998. Ei phrif ddiddordebau gwleidyddol yw Ewrop a’r amgylchedd.
Mae Griffith wedi ysgaru, roedd ei cyn ŵr yn weithiwr cymdeithasol.[3][4] Mewn llun grŵp o wleidyddion LHDT wedi ei dynnu ar gyfer The Independent yn Chwefror 2016, fe wnaeth Griffith ddod allan fel lesbiad, gan ddweud bod ei rhywioldeb yn hysbys ymysg ei ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr ers canol y 1990au.[5]
Mae Griffith yn berchen ar dŷ yn Llanelli, fflat yn Llundain,[6] a thyddyn yn Sir Gaerfyrddin sy'n derbyn nawdd Tir Gofal.[7] Mae ei diddordebau yn cynnwys cerddoriaeth, sinema Ewropeaidd, garddio, cerdded a seiclo.[8][9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.