Tabwla

salad llysieuol, Arabaidd From Wikipedia, the free encyclopedia

Tabwla
Remove ads

Salad llysieuol o'r gwledydd Arabaidd yw tabwla (Arabeg: تبولة) hefyd mae tabouleh neu taboulah) sydd wedi'i wneud yn bennaf o bersli wedi'i dorri'n fân, gyda thomatos, mintys, nionyn, bulgur (wedi socian, ond heb ei goginio), a'i sesnio hydag olew yr olewydd, sudd lemwn, halen a phupur melys. Mewn rhai amrywiadau o'r pryd yma ceir letys wedi'i chwalu, ac weithiau defnyddir semolina yn lle bulgur.[1]

Ffeithiau sydyn Math, Deunydd ...

Yn draddodiadol, mae Tabbouleh yn cael ei wasanaethu ar y bwrdd fel rhan o fezze yn y byd Arabaidd. Yn ddiweddar, mae ei boblogrwydd wedi tyfu yn niwylliannau'r Gorllewin.[2]

Remove ads

Etymoleg

Mae'r tabbūle yn dod o'r gair Arabeg tābil sydd yn ei dro'n dod o'r gair Aramaeg tbl, sy'n golygu "sesnin" [3][4] neu'n fwy llythrennol "dip". Ymddangosodd y defnydd o'r gair yn y Gymraeg a'r Saesneg yn gyntaf yn y 1950au.[3]

Hanes

Roedd perlysiau bwytadwy o'r enw qaḍb [5] yn rhan hanfodol o'r diet Arabaidd yn yr Oesoedd Canol. Mae prydau fel tabwla yn tystio i'w poblogrwydd parhaus yng nghoginio'r Dwyrain Canol heddiw.[6] Mae'r pryd yn dod yn wreiddiol o fynyddoedd Libanus a Syria, mae [7] tabbouleh wedi dod yn un o'r saladau mwyaf poblogaidd yn y Dwyrain Canol.[8] Yn y 19g ystyriwyd mai'r salamouni (gwenith a driniwyd yn rhanbarth Dyffryn Beqaa yn Libanus) oedd y gorau i wneud bulgur, sef cynhwysyn allweddol tabwla.[9]

Mae Diwrnod Cenedlaethol Tabwla Libanus yn ddiwrnod gŵyl unigryw sy'n rhoi llwtfan eang i Tabwla. Er 2001, mae'n cael ei ddathlu ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Gorffennaf.[10]

Remove ads

Amrywiadau rhanbarthol

Yn y Dwyrain Canol, yn enwedig Syria, Libanus, Palestina, Gwlad yr Iorddonen, yr Aifft ac Irac, fe'i gwasanaethir fel arfer fel rhan o mezze. Mae'r Syriaidd a thrigolion Libanus yn defnyddio mwy o bersli na gwenith bulgur yn eu dysgl nhw.[11] Mae na amrywiad Twrcaidd o'r ddysgl o'r enw kısır,[8] a dysgl Armenaidd debyg o'r enw eetch sy'n defnyddio llawer mwy o bulgur na phersli. Ceir amrywiad hynafol arall yn terchots.

Yng Nghyprus, lle cyflwynwyd y ddysgl gan bobl o Libanus, fe'i gelwir yn tambouli. Yn y Weriniaeth Ddominicaidd, ceir fersiwn leol a gyflwynwyd gan fewnfudwyr o Syria a Libanus o'r enw Tipile.[12] Mae hefyd yn boblogaidd yn Israel ar achlysuron rheolaidd a gwyliau.[13]

Fel Hwmws, Baba Ghanoush, bara pita, a bwyd Arabaidd eraill, mae tabwla wedi dod yn fwyd poblogaidd yn yr Unol Daleithiau.[2]

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads