From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llandrillo-yn-Rhos,[1][2] weithiau Llandrillo (Saesneg: Rhos-on-Sea). Saif ar arfordir rhyw filltir i'r gorllewin o dref Bae Colwyn, ac erbyn hyn mae i bob pwrpas yn faesdref o'r dref honno. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 7,593.[3]
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 7,593 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 312.23 ha |
Cyfesurynnau | 53.3128°N 3.749°W |
Cod SYG | W04000137 |
Cod OS | SH842805 |
Cod post | LL28 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | Gill German (Llafur) |
Gerllaw mae Bryn Euryn, lle mae gweddillion bryngaer a atgyfnerthwyd yn yr Oesoedd Canol cynnar, efallai yn oes Maelgwn Gwynedd, a chwarel galchfaen fechan. Gellir gweld gweddillion Llys Euryn, sy'n dyddio o'r 16g ond a adeiladwyd ar safle plas cynharach lle trigai Ednyfed Fychan, distain a phrif gynorthwydd Llywelyn Fawr yn rhan gyntaf y 13g.
Ar y traeth islaw Bryn Eurun mae Rhos Fynach, lle adeiladwyd gored bysgota gan fynachod Abaty Aberconwy. Roedd yn cael ei ddefnyddio i bysgota hyd ddechrau'r 20g. Yn ôl un chwedl, o Landrillo y cychwynnodd Madog ar ei fordaith i America.
Rhwng Llandrillo a Bae Penrhyn, saif campws Coleg Llandrillo Cymru.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llandrillo-yn-Rhos (pob oed) (7,593) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandrillo-yn-Rhos) (1,366) | 18.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandrillo-yn-Rhos) (3441) | 45.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandrillo-yn-Rhos) (1,838) | 50.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Dyddia eglwys Llandrillo-yn-Rhos, a gysegrwyd i Sant Trillo, o'r 13g, ac efallai fod cysylltiad ag Ednyfed Fychan. Ger y môr mae Capel Trillo, capel bychan a all fod yn dyddio o'r 6g.
Mae Capel bychan Sant Trillo'n dyddio'n ôl i'r 6g ac wedi'i leoli ar safle cyn-Gristnogol: yn union uwch ben ffynnon cysegredig, Celtaidd. Mab Ithel Hael oedd Trillo, mae'n debyg, a cheir eglwysi eraill wedi'u cysegru iddo yn Eryri, pentref Llandrillo, Dinbych a chredir mae o Lydaw y daeth i Gymru. Roedd Trillo'n frawd i Tygai (Llandygái), ac ef a sefydlodd yr eglwys ger y Penrhyn, Bangor. Eu chwaer Llechid a sefydlodd Eglwys Llanllechid uwchlaw'r Penrhyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.