Arian byw (elfen)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Elfen gemegol fetalig yw mercwri (enw poblogaidd: arian byw) â'r symbol Hg
. Mercwri yw'r unig fetel sy'n hylif ar dymheredd stafell. Roedd arian byw yn hysbys i wyddonwyr yr Henfyd, yr Hen Aifft, yr India gynnar a Tsieina. Fe'i ceir weithiau yn ei chyflwr metalaidd naturiol ond yn amlaf fel y cyfansoddyn sinabar sylffid (HgS).
- Erthygl am yr elfen Mercwri yw hon. Gweler hefyd Mercher (planed) (Saesneg:Mercury).
Remove ads
Arian Byw y Byd actio
Yng nghyfnod William Shakespeare roedd llawer o'r colur yr oedden nhw'n defnyddio yn cynnwys cemegion neu sylweddau peryglus, ac weithiau'n farwol. Enghraifft o fath o golur a oedd yn cynnwys arian byw oedd y paent coch oedd yn cael ei roi ar wefusau'r actorion. Roedd yr actorion yn ystod y ddrama yn llyfu'u gwefusau, ac yn llyncu'r arian byw oedd yn y paent. Roedd hwn yn achosi i'r actor/actores fynd yn sâl iawn dros gyfnod o amser.
Enghraifft arall oedd yn bochau a oedd yn cael eu peintio â chemegyn o'r enw mercury sulphide. Roedd hwn yn hawdd i'w anadlu drwy'r trwyn, ac mi fyddai'r arian byw gwenwynig yn cronni yn y stunog. A dim ond amser wedyn oedd rhwng yr actor a'i farwolaeth.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads