Thoriwm

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Elfen gemegol gwan o ran ymbelydredd a ganfyddir mewn digonedd, ac yn naturiol led-led y ddaear ydy thoriwm sydd â'r symbol Th a'r rhif atomig 90 yn y tabl cyfnodol. Thorium-232 ydy'r enw arno mewn ffurf naturiol.

Ffeithiau sydyn Symbol, Rhif ...

Gellir trin a thrafod y metal meddal hwn yn hawdd; ei liw ydy arian-gwyn.

Mae ganddo 27 isotop, y mwyaf sefydlog ydy 232Th gyda'i hanner-oes o 14.05 biliwn blwyddyn.

Darganfuwyd mwynau du ar Ynys Løvøy gan M. T. Esmark a rhoddodd y sampl i'r Athro Jens Esmark, mwynwr galluog na wyddai beth goblyn oedd y metal. Danfonodd ef i'r cemegydd Jöns Jakob Berzelius yn Sweden i'w archwilio yn 1828. Enwodd Berzelius y metel ar ôl y duw Thor, duw'r daran. Yn 1885 cafwyd defnydd i'r metal hwn, sef o fewn 'mantell' lampau nwy.

Remove ads

Ynni niwclear

Rhwng 1964 a 1969 defnyddiwyd Thoriwm-232 i greu'r tanwydd niwclear iwraniwm233 er enghraifft yn yr arbrawf a elwid yn MSR (molten-salt reactor) yn Unol Daleithiau America. Mae'r adweithyddion cynnar hyn wedi eu cau i lawr, ond mae Rwsia, India a Tsieina yn cynllunio rhai newydd oherwydd fod y cyfansoddyn hwn yn gymharol saff.

Dyma rai o'r rhinweddau dros ei ddefnyddio i greu ynni niwclear:[1]

  • Mae defnyddio'r gwastraff niwclear i wneud arfau niwclear bron yn amhosib.
  • Mae maint y gwastaff yn llai: rhwng 10 a 10,000 gwaith yn llai na gydag iwraniwm.
  • Caiff thoriwm ei fwyngloddio o'r daear fel eisotop sy'n 100% yn bur, yn ddefnyddiol gan nad oes rhaid ei drin cyn ei ddefnyddio.

Ceir arbrofion cyffelyb hefyd yn Labordy Daresbury yn Lloegr er enghraifft: Electron Machine with Many Applications (EMMA). Mae'r arbrawf eisioes wedi dwyn ffrwyth a gwelir yn Ysbyty Clatterbridge ger Lerpwl beiriant i helpu therapi cancr.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads