Cystadleuaeth Cân Eurovision 2013
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2013 oedd y 58fed Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynheliwyd y gystadleuaeth ym Malmö, Sweden ar ôl i Loreen ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2012 gyda'i chân "Euphoria". Dewisodd Sveriges Television (SVT) Malmö Arena fel lleoliad y gystadleuaeth. Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar 14 a 16 Mai 2013 a chynhaliwyd y rownd derfynol ar 18 Mai 2013. Roedd 39 o wledydd yn cyfranogi, gan gynnwys Armenia a oedd yn absennol yn 2012. Penderfynodd Bosnia a Hertsegofina, Portiwgal, Slofacia a Thrwci beidio â chymryd rhan. Emelie de Forest o Ddenmarc enillodd y gystadleuaeth gyda'r gân "Only Teardrops".
Remove ads
Cyfranogwyr
Ar 21 Rhagfyr 2012, cyhoeddwyd y byddai 39 o wledydd yn cyfranogi yn y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2013. Dychwelodd Armenia i'r gystadleuaeth ar ôl ei hegwyl o flwyddyn. Gan fod Denmarc a Norwy yn agos yn ddaearyddol at Malmö, penderfynwyd y byddai'r ddwy wlad yn cyfranogi mewn rowndiau cyn-derfynol gwahanol er mwyn gwneud y gorau o argaeledd tocynnau i ymwelwyr y ddwy wlad.
Rowndiau Cyn-Derfynol
Y Rownd Gyn-Derfynol Gyntaf
Pleidleisiwch y Deyrnas Unedig, yr Eidal a Sweden yn y rownd hon.
Yr Ail Rownd Gyn-Derfynol
Pleidleisiodd Almaen, Ffrainc a Sbaen yn y rownd hon.
Y Rownd Derfynol
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads