Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012 oedd y 57ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Baku, Aserbaijan, ar ôl i Ell a Nikki ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2011 gyda'u cân "Running Scared". Enillwyd y gystadleuaeth gan y gantores Swedaidd Loreen gyda'i chân "Euphoria" felly disgwylir y bydd Sweden yn cynnal y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2013.

Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar 22 a 24 Mai 2012 a chynhaliwyd y rownd derfynol ar 26 Mai 2012.[2] Ymunodd 10 gwlad o bob rownd gyn-derfynol â'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen yn y rownd derfynol. Cystadleuodd 42 o wledydd,[3] yn cynnwys Montenegro, oedd yn cyfranogi am y tro cyntaf ers 2009. Penderfynodd Armenia a Gwlad Pwyl beidio â chymryd rhan.
Remove ads
Fformat
Penderfynwyd y byddai y system bleidleisio yn dychwelyd i'r ffenestr 15-munud a ddefnyddiwyd rhwng y gystadleuaeth 1998 a'r gystadleuaeth 2009. Dim ond ar ôl i bob gwlad berfformio y cafodd y gynulleidfa ddechrau pleidleisio. Disodlodd y gyfundrefn honno system lle cafodd y gynulleidfa bleidleisio o ddechrau'r gystadleuaeth ymlaen fel yn 2010 a 2011. Heb eu newid oedd y rheolau i bennu'r canlyniadau, sef hollt 50:50 rhwng rheithgorau cenedlaethol a phleidleisiau ffôn.[4]
Yn unol â rheolau swyddogol a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2011, bu 26 o wledydd yn perfformio yn y rownd derfynol, yn cynnwys y wlad letyol, y "5 Fawr", a'r 10 cystadleuwr aeth drwodd o bob rownd gyn-defrynol.[5] Hon oedd yr ail gystadleuaeth yn hanes Eurovision lle bu 26 o berfformwyr yn cymryd rhan, y tro cyntaf ers 2003.
Dyraniadau pot
Ar 25 Ionawr 2012 ym Mhalas Buta cafodd y gwledydd sy'n cystadlu (ac eithrio'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen) eu rhannu yn chwe pot, yn seiliedig ar batrymau bleidleisio. Cafodd y gwledydd eu dewis o'r potiau i benderfynu a fyddent yn cystadlu yn y rownd gyn-derfynol gyntaf neu'r ail. Hefyd, roedd y dewis yn penderfynu ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r "5 Fawr" (yr Almaen, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, a Sbaen) yn pleidleisio.
Dyluniad graffeg
Mae dyluniad y gystadleuaeth yn seiliedig ar thema'r gystadleuaeth, sef "Light Your Fire!" a gafodd ei ysbrydoli gan lysenw Aserbaijan, "Gwlad y Tân" ("Land of Fire").
Remove ads
Cyfranogwyr
Cystadleuodd 42 o wledydd yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012. Cyhoeddodd Radio Televizija Crna Gora (RTCG), cwmni darlledu Montenegro, y byddai'n dychwelyd i'r gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2009. Mynegwyd amheuon yn Armenia o'r dechrau am gystadlu o achos pryderon diogelwch am ei chynrychiolydd yn sgil Rhyfel Nagorno-Karabakh sydd yn parhau rhwng Armenia ac Aserbaijian[6] ac ar 7 Mawrth 2012 cyhoeddodd Armenia na fyddai'n cystadlu.[7]
Cyfranogwyr y rownd gyn-derfynol gyntaf
Pleidleisiodd Aserbaisian, yr Eidal a Sbaen yn y rownd hon. Gohiriodd Radio Televizioni Shqiptar (RTSH), cwmni teledu Albania, ddarllediad y gystadleuaeth gan ddefnyddio pleidlais y rheithgor yn unig, ar ôl i ddamwain bws ddifrifol gymryd lle yn y wlad.
Cyfranogwyr yr ail rownd gyn-derfynol
Pleidleisiodd Yr Almaen, y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn y rownd hon. Gofynnodd yr Almaen i bleidleisio yn y rown hon. Byddai Armenia wedi cymryd rhan yn y rownd hon ond yn ddiweddarach aeth allan o'r gystadleuaeth oherwydd rhesymau diogelwch.
Cyfranogwyr y rownd derfynol
Remove ads
Artistiaid sy'n dychwelyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads