Simone Biles

Gymnast artistig o Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Simone Biles
Remove ads

Gymnast artistig o'r Unol Daleithiau yw Simone Arianne Biles Owens (ganwyd 14 Mawrth 1997). Mae ganddi 10 medal Olympaidd a 30 medal o Bencampwriaeth y Byd. Mae hi'n cael ei chydnabod fel y gorau erioed yn gymnasteg.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Man preswyl ...
Remove ads

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd Biles yn Columbus, Ohio, y trydydd o bedwar plentyn.[1] Roedd hi a'i brodyr a chwiorydd yn mynd mewn ag allan o ofal rhieni maeth. Yn 2003, cafodd ei mabwysiadu gan ei thadcu a mamgu. Dechreuodd gymnasteg pan oedd yn chwech oed.

Mynychodd Biles Ysgol Benfer yn Texas. Yn 2012, dechreuodd Biles cael addysg adref er mwyn codi ei hamser hyfforddi o 20 awr yr wythnos i 32.

Gyrfa

Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn Rio de Janeiro, cipiodd y fedal aur gyda thîm Unol Daleithiau America, ac yn y gystadleuaeth gyffredinol, ac ar y llofnaid a'r llawr. Enillodd y fedal efydd ar y trawst. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Tokyo, tynnodd yn ôl o'r cystadlu oherwydd cafodd y 'twisties' (sef colli hyder). Enillodd y fedal arian gyda thîm Unol Daleithiau America ac efydd ar y trawst. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 ym Mharis,[2] hi oedd yr Americanes gyntaf i ennill dwy fedal aur gyffredinol ac ar y llofnaid.[3] Enillodd Biles y fedal aur hefyd gyda thîm Unol Daleithiau America.

Mae Biles wedi ennill Cystadleuaeth unigol gyffredinol 6 gwaith (2013, 2014, 2015, 2018, 2019 a 2023) ym Mhencampwriaeth y Byd Gymnasteg Arsistig. Mae hi'n bencampwr llawr y byd 6 gwaith (2013, 2014, 2015, 2018, 2019, 2023), pencampwr trawst y byd 4 gwaith (2014, 2015, 2019, 2023), pencampwr llofnaid y byd 2 waith (2018, 2019). Roedd hi'n rhan o dîm Unol Daleithiau America a enillodd y fedal aur yn 2014, 2015, 2018, 2019 a 2023.

Thumb
Joe Biden yn gwobrwyo Simone

Yn 2019, torrodd Biles y record am y nifer fwyaf o fedalau Pencampwriaeth y Byd. Yn 2024, roedd ganddi 30 medal Pencampwriaeth y Byd.

Yn 2022, gwobrwyodd Joe Biden arlywydd yr Unol Daleithiau Medal Rhyddid yr Arlywydd iddi.[4]

Remove ads

Hanes cystadlu

Cystadlaethau iau

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Digwyddiad ...

Cystadleuthau hŷn

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Digwyddiad ...
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads