Cystadleuaeth Cân Eurovision 2007

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2007 oedd y 52fed Cystadleuaeth Cân Eurovision, a chafodd ei gynnal rhwng y 10fed a'r 12fed o Fai, 2009 yn Hartwall Areena, Helsinki, Ffindir. Roedd y cynigion eraill yn Espoo, Turku and Tampere. Costiodd y gystadleuaeth 13 miliwn. Serbia enillodd y gystadleuaeth y flwyddyn honno. Derbyniodd y Ffindir yr hawl i gynnal y digwyddiad ar ôl i'r grŵp metal trwm, "Lordi" ennill Cystadleuaeth Cân Eurovision 2006. Dyma oedd y tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn y Ffindir. Cyflwynwyd y sioe gan y cyflwynwraig teledu Ffinaidd, Jaana Pelkonen a'r cerddor a'r actor Ffinaidd Mikko Leppilampi. Gweithiodd Krisse Salminen fel cyflwynydd arbennig yn yr ystafell werdd, a darlledodd yn fyw o'r dorf yn Sgwâr y Senedd. Cymerodd 42 gwlad rhan yn y gystadleuaeth, sef y nifer uchaf erioed i gystadlu.

Ffeithiau sydyn Dyddiad(au), Rownd cyn-derfynol 1 ...

Enillwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno gan Serbia a gynrychiolwyd gan y gantores Marija Šerifović. Enw'r gân fuddugol oedd "Molitva" sy'n golygu "Gweddi" yn Gymraeg.

Remove ads

Rowndiau

Y rownd cyn-derfynol

  • Digwyddodd y rownd cyn-derfynol yn Helsinki ar y 10fed o Fai.
  • Dengys y lliw peach gwledydd a aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
Rhagor o wybodaeth O'r het, Gwlad ...

Y Rownd Derfynol

Roed y gwledydd yn y rownd derfynol:

  • Y "Pedwar Mawr" (Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig).
  • Y wlad a oedd yn cynnal y gystadleuaeth, Ffindir.
  • Y deg gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bwyntiau yn y rownd derfynol 2006.
  • Y deg gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn yn y rownd cyn-derfynol.
Rhagor o wybodaeth O'r het, Gwlad ...
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads