Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 oedd y 54fed Cystadleuaeth Cân Eurovision, a chaiff ei gynnal rhwng y 12fed a'r 16eg o Fai, 2009 yn Arena Dan-do Olympaidd Moscfa, Rwsia. Gwelwyd newud yn y drefn pleidleisio yn 2009, wrth i reithgorau cenedlaethol gael eu hail-gyflwyno yn ogystal â phleidlais teleffon y cyhoedd. Cymerodd 42 gwlad rhan yn y gystadleuaeth; cyhoeddodd Slofacia y byddent yn dychwelyd i'r gystadleuaeth tra bod San Marino wedi tynnu allan am resymau ariannol. Yn wreiddiol, cyhoeddodd Latfia a Georgia eu bod yn bwriadu tynnu allan hefyd, ond yn ddiweddarach nododd yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (UDE) y byddent yn cymryd rhan. Fodd bynnag, yn ddiweddarach tynnodd Georgia allan o'r gystadleuaeth ar ôl i'r EDE ddatgan fod eu cân wedi torri rheolau'r gystadleuaeth.
Remove ads
Fformat
Ar 20 Ionawr 2009, tynnwyd enwau allan o het i weld pa wledydd a fyddai'n ymddangos yn y rownd gyn-derfynol cyntaf neu'r ail. Rhannwyd gwledydd i mewn i chwech pot yn unol a phatrymau pleidleisio cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r chwech pot i benderfynu pa wledydd fyddai yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a phwy fyddai yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd y byddai'r Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig yn pleidleisio yn y rownd gyn-derfynol gyntaf, tra bod Rwsia a Ffrainc yn pleidleisio yn yr ail rownd gyn-derfynol. Tynnwyd yr enwau allan i benderfynu trefn y rowndiau cyn-derfynol a'r rownd derfynol a threfn y pleidleisio ar yr 16 o Fawrth 2009.
Remove ads
Canlyniadau
Gwledydd y rownd cyn-derfynol
Cymrodd 37 gwlad ran mewn un o ddwy rownd cyn -derfynol y gystadleuaeth. Tynnwyd yr enwau allan o'r het ar gyfer y rownd cyn-derfynol ar y 30ain o Ionawr, 2009 tra bod y rhestr o drefn y gwledydd wedi digwydd ar yr 16eg o Fawrth, 2009.
Y rownd cyn-derfynol gyntaf
- Digwyddodd y rownd cyn-derfynol gyntaf ym Moscfa ar y 12fed o Fai.
- Aeth y naw gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau ar y ffôn i'r rownd derfynol ar yr 16eg o Fai.
- Penderfynodd y rheithgor ar y degfed gwlad i fynd trwyddo.
- Pleidleisiodd y Deyrnas Unedig a'r Almaen yn y bleidlais hon.
- Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
- Dengys y lliw mwstard y wlad a ddewiswyd gan y rheithgor i fynd drwyddo i'r rownd derfynol.
Yr ail rownd cyn-derfynol
- Digwyddodd yr ail rownd cyn-derfynol ym Moscfa ar y 14eg o Fai.
- Pleidleisiodd Ffrainc a Rwsia yn y rownd cyn-derfynol hwn. Roedd Sbaen fod pleidleisio yn y rownd cyn-derfynol hwn ond yn sgîl camgymeriadau amseru gyda TVE, darlledwyd y rownd cyn-derfynol yn hwyr ac nid oedd pleidleiswyr Sbaen yn medru pleidleisio.
- Dengys y lliw peach gwledydd a aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
- Dengys y lliw mwstard y wlad a ddewiswyd gan reithgor i fynd drwyddo i'r rownd derfynol.
Y Rownd Derfynol
Digwyddodd y rownd derfynol ym Moscfa ar yr 16eg o Fai am 23:00 (amser Moscfa) (19:00 UTC). Cyflwynwyd y sioe gan Alsou ac Ivan Urgant. Y gwledydd a berfformiodd yn y rownd derfynol oedd:
- Y "Pedwar Mawr" (Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig).
- Y wlad a oedd yn cynnal y gystadleuaeth, Rwsia.
- Y naw gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn yn y rownd cyn-derfynol cyntaf.
- Y naw gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn yn yr ail rownd cyn-derfynol.
- Dewis y rheithgor o'r ddau rownd cyn-derfynol
- Dengys y wlad a enillodd y gystadleuaeth mewn lliw peach.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads