Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 oedd y 55ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Fe'i cynhaliwyd rhwng 25 a 29 Mai 2010 yn Oslo, Norwy[2], Norwy. Thema'r gystadleuaeth oedd "Share The Moment" ("Rhannwch Y Foment" yn Gymraeg). Bu 39 gwlad yn cystadlu yn y gystadleuaeth. Dychwelodd Georgia i'r gystadleuaeth ar ôl blwyddyn o absenoldeb, ond ni chystadlodd Andorra, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari na Montenegro.
Cyhoeddodd yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd (EBU) y byddai'n ceisio perswadio cwmnïau darlledu'r Eidal, Lwcsembwrg, Monaco ac Awstria i ddychwelyd yn 2010[3] ond ni bu'r trafodion hyn yn llwyddiannus am amryw o resymau. Erbyn 13 Mai 2009, roedd yr EBU wedi cadarnhau na allai Casachstan, Catar a gwledydd tebyg gystadlu am eu bod yn disgyn y tu allan i'r Ardal Ddarlledu Ewropeaidd. Nid oedd gwledydd newydd posib yn gymwys[4] .
Remove ads
Man cyfarfod
Ar 3 Gorffennaf 2009, penderfynodd cwmni darlledu Norwy, NRK, gynnal y gystadleuaeth yn y Fornebu Arena (a arferai gael ei alw'n Arena Telenor), Bærum, yn agos i ganol dinas Oslo.[5] Cyhoeddodd gweinidog diwylliant Norwy, Trond Giske, yn wreiddiol y byddai cyllideb o €17 miliwn (150 miliwn Kroner) yn cael ei gwario ar y gystadleuaeth, cyfanswm llai nag a wariwyd ar gystadleuaeth Moscfa 2009 ond yn fwy na chystadleuaeth Helsinki 2007[6]. Ar 27 Mai amcangyfrifwyd mai 211 miliwn kroner (€24 miliwn) oedd gwir gost y gyngerdd.[7]
Dyluniad

Dangoswyd y thema a'r slogan gan NRK ar 4 Rhagfyr 2009 yn ystod y Gyfnewidfa Arwyddluniau Dinasoedd Cynhalwyr y gystadleuaeth rhwng meiri Moscfa, Oslo a Bærum. Symboleiddiodd hyn ddechrau swyddogol tymor Cystadleuaeth Gân Eurovision 2010. Dewiswyd y thema, casgliad cylchau sydd yn croesi, i 'gynrychioli pobl yn dod at ei gilydd ac emosyinau amrywiol Cystadleuaeth Gân Eurovision'.[8] Cyhoeddwyd rhagolwg y llwyfan ar 6 Mai 2010. Doedd y llwyfan ddim yn defnyddio sgriniau LED ond roedd yn cynnwys technegau golau.[9]
Remove ads
Cyflwynwyr
Roedd llawer o syniadau yn y wasg Norwyaidd am gyflwyr posib ar gyfer cystadleuaeth 2010. Crybwyllwyd enwau cyflwynwyr NRK Jon Almaas a Fredrick Skavlan, ac enillodd cyflwynwyr poblogaidd TV 2 Thomas Numme a Harald Rønneberg arolwg barn Dagbladet (papur newydd Norwyaidd) ar ei wefan.[10]
Cyhoeddodd NRK enwau'r cyflwynwyr ar 10 Mai 2010, sef Erik Solbakken, Haddy N'jie a Nadia Hasnaoui. Roedd Solbakken a N'jie i fod i agor y sioeau, cyflwyno'r artistiaid a rhoi adroddiadau o'r ystafell werdd. Rhan Hasnaoui oedd cyflwyno'r pleidleisiau a'r bwrdd sgôr. Dyma'r ail dro i'r Eurovision gael ei chyflwyno gan fwy na dau gyflwynydd ers Cystadleuaeth Cân Eurovision 1999.
Remove ads
Fformat
Ar 7 Chwefror 2010 rhannwyd y gwledydd ym bum grŵp yn ôl patrymau pleidleisio yn y cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r pum pot i benderfynu pa wledydd fyddai'n cymryd rhan yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a pa rai fyddai'n cael lle yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r Pedwar Mawr (Y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Sbaen a'r Almaen) a'r gwesteiwyr Norwy yn pleidleisio yn dilyn fformat 2009.
Canlyniadau
Cadarnhaodd 39 gwlad eu bwriad i gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2010.
Y Rownd Gyn-derfynol Gyntaf
- Cynhaliwyd y rownd gyn-derfynol gyntaf yn Oslo ar 25 Mai 2010.
- Aeth y deg gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i'r rownd derfynol.
- Pleidleisiodd yr Almaen, Ffrainc a Sbaen yn y rownd gyn-derfynol hon.
- Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
Yr Ail Rownd Gyn-derfynol
- Cynhaliwyd yr ail rownd gyn-derfynol yn Oslo ar 27 Mai 2010.
- Aeth y deg gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i'r rownd derfynol.
- Pleidleisiodd Y Deyrnas Unedig a Norwy yn y rownd gyn-derfynol hon.
- Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwodd i'r rownd derfynol.
Y Rownd Derfynol
- Digwyddodd y rownd derfynol yn Oslo ar yr 29 Mai am 21:00 (CEST). Cyflwynwyd y sioe gan Erik Solbakken, Haddy N'jie a Nadia Hasnaoui.
- Y gwledydd a berfformiodd yn y rownd derfynol oedd:
- Y "Pedwar Mawr" (Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig).
- Y wlad a oedd yn cynnal y gystadleuaeth, Norwy.
- Yr ugain gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn a'r pleidleisiau'r rheithgorau yn y rowndiau cyn-derfynol.
- Dewiswyd yr enillwr trwy gyfuniad o bleidleisiau ffôn a phleidleisiau rheithgorau proffesiynol.
- Gallai'r gynulleidfa wedi pleidlesio'n ystod y perfformiadau a 15 munud ar ôl y perfformiadau hefyd.
- Dengys y wlad a enillodd y gystadleuaeth mewn lliw peach.
- A ^ Perfformiodd Sbaen ddwywaith (perfformiwyd eto ar ôl Denmarc) oherwydd i Jimmy Jump ddringo i'r llwyfan i gyd-ddawnsio gyda'r artistiaid yn ystod y perfformiad cyntaf.
Pleidleisio'n ystod y rownd derfynol
Cyhoeddwyd pleidleisiau'r gwledydd yn y drefn canlynol:[11]
Remove ads
Sylwebwyr
Albania : Leon Menkshi
Awstralia : Julia Zemiro a Sam Pang
Bosnia a Hertsegofina : Dejan Kukrić
Croatia : Duško Ćurlić
Cyprus : Nathan Morley (Radio CyBC)
Denmarc : Nikolaj Molbech
Deyrnas Unedig: Paddy O'Connell a Sarah Cawood (y rowndiau cyn-derfynol), a Graham Norton (teledu) a Ken Bruce (radio) (y rownd derfynol)
Estonia : Marko Reikop
Ffrainc : Peggy Olmi, Yoann Renoard (y rowndiau cyn-derfynol), Cyril Hanouna a Stéphane Bern (y rownd derfynol)
Gwlad Belg : André Vermeulen a Bart Peeters (Fflandrys) a Jean-Pierre Hautier a Jean-Louis Lahaye (Walonia)
Gwlad Groeg : Rika Vagiani
Gwlad Pwyl : Artur Orzech
Gwlad yr Iâ : Sigmar Guðmundsson
Hwngari : Zsolt Jeszenszky
Iwerddon: Marty Whelan (teledu) a Maxi (radio)
Latfia : Karlis Streips
Lithwania : Darius Užkuraitis
Gogledd Macedonia : Karolina Petkovska
Malta : Valerie Vella
Norwy : Olav Viksmo-Slettan
Portiwgal : Sérgio Mateus
Rwmania : Leonard Miron a Gianina Corondan
Rwsia : Dmitry Guberniev and Olga Shelest
Serbia : Duška Vučinić-Lučić (y rownd cyn-derfynol cyntaf a'r rownd derfynol) a Dragoljub Ilić (yr ail rownd cyn-derfynol a'r rownd derfynol)
Slofacia : Roman Bomboš
Slofenia : Andrej Hofer
Sbaen : José Luis Uribarri
Sweden : Edward af Sillen a Christine Meltzer
Twrci : Bülend Özveren
Y Ffindir : Jaana Pelkonen, Asko Murtomäki a Tobias Larsson
Y Swistir : Sven Epiney
Yr Almaen : Peter Urban
Yr Iseldiroedd : Daniël Dekker and Cornald Maas
Remove ads
Ciliadau
Remove ads
Darllediadau
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads