Dafydd Nanmor

bardd From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Bardd a oedd yn feistr ar y canu mawl ac a ystyrir yn un o'r pwysicaf o Feirdd yr Uchelwyr oedd Dafydd Nanmor (fl. tua 1450 - 1480).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Bywgraffiad

Brodor o Nanmor, gogledd Meirionnydd (Gwynedd) oedd Dafydd Nanmor (mae rhai traddodiadau yn dweud iddo gael ei eni yn Harlech, ond ymddengys nad oes sail i'r honiad). Yn ôl y chwedl, bu rhaid iddo adael ei fro enedigol ar lan Afon Glaslyn am y De am iddo dramgwyddo trwy ganu cerddi serch i Gwen o'r Ddôl, gwraig uchelwr lleol. Sut bynnag y bu am hynny, treuliodd weddill ei oes Ne Cymru lle cafodd nawdd gan rai o fawrion y cyfnod, yn cynnwys Rhys ap Maredudd ('Rhys o'r Tywyn', ger Aberteifi) a'i deulu a Syr Dafydd ap Thomas, cwnstabl Castell Aberteifi. Ni wyddys pryd y bu farw, ond mae'n "tewi" ar ôl tua 1480. Dywedir iddo gael ei gladdu ym mynwent Y Tŷ Gwyn ar Daf.

Remove ads

Cerddi

Canu mawl yw trwch y cerddi ganddo sydd ar glawr. Ceir nodyn brudiol yn rhai o'i gerddi hefyd, yn enwedig ei awdl a chywydd i Siasbar Tudur a'i frawd Edmwnd Tudur, tad Harri Tudur. Cymerodd y beirniad Saunders Lewis waith Dafydd Nanmor fel esiampl nodedig o "fardd perchentyaeth", sail i lawer o feirniadaeth ddylanwadol ar ddelweddaeth a swyddogaeth Beirdd yr Uchelwyr a'u perthynas a'r uchelwyr eu hunain. Parhad a chydblethiad y gymdeithas Gymraeg a Chymreig yw prif nodwedd y canu hwn.

Mae rhai o'i gerddi yn orchestol, e.e. ei gywydd enwog 'I wallt Llio', sy'n llawn trosiadau estynedig a dychymyg wrth ddyfalu gwallt y ferch honno. Cywrain dros ben yw ei ddarlun o adeilad Abaty Ystrad Fflur hefyd.

Remove ads

Ysgolheictod

Mae gwaith Dafydd Nanmor yn dangos ei fod yn medru Lladin yn dda a bod ganddo ddiddordeb mawr mewn seryddiaeth - gyda'r dogn arferol o sêr-ddewiniaeth - a meddyginiaeth llyseuol. Roedd yn gopïydd llawysgrifau Cymraeg hefyd, ac mae lle i gredu mai ef yw awdur llawysgrif sy'n cynnwys detholiad o'i waith ei hun a rhai o gerddi Dafydd ap Gwilym.

Llyfryddiaeth

Gwaith y bardd

  • The Poetical Works of Dafydd Nanmor, gol. Thomas Roberts ac Ifor Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1923). Yr unig olygiad safonol hyd heddiw.

Astudiaethau

  • Saunders Lewis, "Dafydd Nanmor", ym Meistri'r Canrifoedd, gol. R. Geraint Gruffydd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads