Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd

bardd From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Bardd Cymraeg o Ynys Môn oedd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd (fl. 13521382). Ceir y rhan fwyaf o'i waith yn Llyfr Coch Hergest. Mae'n perthyn i ddosbarth o Feirdd yr Uchelwyr y gellir eu hystyried fel yr olaf o'r Gogynfeirdd oherwydd arddull hynafol eu canu, sy'n barhad o draddodiad Beirdd y Tywysogion.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Remove ads

Cerddi

Roedd yn fardd cynhyrchiol a cheir nifer o'i gerddi ar glawr. Cadwyd sawl math o farddoniaeth ganddo. Mae ei ganu mawl i uchelwyr yn cynnwys awdlau i Syr Hywel y Fwyall a nifer o aelodau o deulu Tuduriaid Penmynydd, Tudur Fychan (bu farw 1367), Hywel ap Goronwy a Goronwy Fychan. Credir mai ef oedd awdur awdl ddarogan sy'n galw ar Owain Lawgoch i ddychwelyd i Gymru i hawlio ei etifeddiaeth fel Tywysog Cymru a arwain y Cymry i fuddugoliaeth yn erbyn y Saeson. Ceir fefyd lawer o ganeuon serch a chaneuon crefyddol. Roedd yn ddisgynnydd i'r bardd Dafydd Benfras (cyn 1195? - tua 1258).

Remove ads

Llyfryddiaeth

Golygwyd gwaith Gruffudd ap Maredudd mewn tair cyfrol:

  • Gwaith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd
    • cyf. 1: Canu i Deulu Penmynydd, gol. Barry J. Lewis (Aberystwyth, 2003)
    • cyf. 2: Canu Crefyddol, gol. Barry J. Lewis (Aberystwyth, 2005)
    • cyf. 3: Canu Amrywiol, gol. Ann Parry Owen (Aberystwyth, 2007)


Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads