Tref a chymuned yn ne-ddwyrain Powys, Cymru, yw Crucywel[1] (Saesneg: Crickhowell) neu weithiau Crughywel a Crug Hywel.[2][3] Saif ar Afon Wysg ac ar y ffordd A40.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,063 |
Gefeilldref/i | Skaer |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 624.66 ha |
Cyfesurynnau | 51.8597°N 3.1372°W |
Cod SYG | W04000267 |
Cod OS | SO217186 |
Cod post | NP8 |
AS/au | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Tardda'r enw o'r bryn Crug Hywel a'i fryngaer gerllaw. Mae’r dref yn sefyll ar Afon Wysg ar ochr ddeheuol y Mynydd Du yn rhan ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae poblogaeth o ryw 2,000 yn byw yn y dref.
Adeiladau a chofadeiladau
Mae adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig yn y dref yn cynnwys eglwys blwyf St Edmund, sy’n dyddio o’r 14g, gweddillion castell Crucywel ar y “twmp” a’r bont o’r 17g. Mae gan y bont ddeuddeg bwa ar un ochr a thri bwa ar ddeg ar yr ochr arall.
- Castell Crucywel
- Eglwys Sant Edmwnd
- Pont ar Wysg
- Ysgol Crucywel
Henebion yng Crucywel | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Crucywel (pob oed) (2,063) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Crucywel) (169) | 8.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Crucywel) (1282) | 62.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Crucywel) (380) | 40.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Enwogion
- Syr George Everest (1798–1866), fforiwr
- Walter Cowan (1871-1956), llyngesydd
- Roddy Llewellyn (g. 1947)
Gefeilldref
|
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.