tref a chymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llandrindod[1] (Saesneg: Llandrindod Wells). Tyfodd y dref yn y 19g pan gyrhaeddodd y rheilffordd, gan ddod â llawer o ymwelwyr i brofi'r dyfroedd arbennig o'r ffynhonnau sydd yn y dref (dyma pryd bathwyd yr enw Saesneg Llandrindod Wells, er mwyn denu rhagor o ymwelwyr "ffasiynol" i brofi rhin y dŵr).
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 5,309, 5,598 |
Gefeilldref/i | Bad Rappenau, Contrexéville |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.2435°N 3.3855°W |
Cod SYG | W04000293 |
Cod OS | SO055615 |
Cod post | LD1 |
AS/au | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Erbyn hyn mae Llandrindod yn gartref i Gyngor Sir Powys, sydd yn un o brif gyflogwyr y dref. Cynhelir nifer o gynadleddau yn y dref, gan bod cynifer o westai yn y dref a Phafiliwn sy'n addas ar gyfer digwyddiadau mawr.
Mae Cwm Y Gof (Saesneg: Rock Park) yn barc pert rhwng y dref ac Afon Ieithon. Yn y parc mae man uchel uwchben yr afon o'r enw "Llam Y Cariadon" (Saesneg: Lovers' Leap). Yn ôl hen chwedl, oddi yno y neidiodd dau oedd yn gariadon cudd.
Mae gan Landrindod hefyd lyn adnabyddus gydag ynys fechan yn ei ganol.
Cynhelir marchnad yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ar ddydd Iau cynhelir marchnad ffermwyr yn Stryd Middleton ble gwerthir cynnyrch lleol. Ceir hefyd nifer o siopau bach annibynnol a dau archfarchnad yn y dref.
Mae gorsaf drên Llandrindod yn arhosfa ar Linell Calon Cymru, sy'n rhedeg o Abertawe i'r Amwythig.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llandrindod (pob oed) (5,309) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandrindod) (640) | 12.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandrindod) (2387) | 45% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandrindod) (1,215) | 47% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.