Bethania, Gwynedd

pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Bethania, Gwynedd
Remove ads

Pentref bychan yng Ngwynedd yw Bethania ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir yng nghanol Nant Gwynant yn Eryri, rhwng Llyn Gwynant a Llyn Dinas. Rhed y ffordd A498 trwyddo gan ei gysylltu â Pen-y-gwryd i'r gogledd a Beddgelert i'r de.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Thumb
Pont Bethania, Bethania.

Mae Nant Cynnyd ("Nant Gwynant") yn llifo heibio i Fethania ar ei ffordd i Lyn Dinas. Mae Pont Bethania yn cludo'r A498 dros yr afon. Ceir hen swyddfa bost ym Methania ac ychydig o dai. Mae'n agos i fan cychwyn Llwybr Watkin i ddringo'r Wyddfa ac felly'n boblogaidd gan gerddwyr ac ymwelwyr.

Dros y bont ar yr afon ym Methania mae ffordd fynydd yn dringo i gyfeiriad bryniau'r Cnicht a'i griw a thros y bwlch i'r Traeth Mawr.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads