tref yng Ngwynedd (Sir Gaernarfon cyn 1974) From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref hynafol a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Pwllheli. Saif ar arfordir deheuol Llŷn.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,076 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 545.54 ha |
Cyfesurynnau | 52.88°N 4.42°W |
Cod SYG | W04000098 |
Cod OS | SH374350 |
Cod post | LL53 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Mae'r tref yn dyddio'n ôl i'r canol oesoedd. Bu'r porthladd yn bwysig i'r dref ar hyd y canrifoedd. Roedd yno ddiwydiant adeiladu llongau llewyrchus yn y 19g. Tyfodd i fod yn dref marchnad i Lŷn gyfan, fel y tystia'r safle a adwaenir fel 'Y Maes' lle y cynhelid y ffeiriau, a 'Stryd Moch'. Mae Caerdydd 178.4 km i ffwrdd o Pwllheli ac mae Llundain yn 331.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 41.1 km i ffwrdd.
Mae Pwllheli yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, gyda tua 80% o'r boblogaeth yn medru'r iaith. Yn yr oedrannau 10-14 mae'r canran uchaf o bobol sydd yn gwybod yr iaith, sef 94%.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Mae'r prif ffyrdd A497 a'r A499 yn rhedeg trwy'r dref. Mae'r A497 yn rhedeg yn orllewinol o Borthmadog i Bwllheli ac yna i'r gogledd at Nefyn, tra bod yr A499 yn brif ffordd Benrhyn Llŷn.
Terfynfa'r Rheilffordd Arfordir Cambria yw Gorsaf reilffordd Pwllheli, sydd yn rhedeg i Fachynlleth gyda gwasanaethau yn parhau i Amwythig a Birmingham. Mae'r orsaf yn cael ei weithredu a'i weini gan Trafnidiaeth Cymru. Daeth y rheilffordd i Bwllheli yn 1867 gan ei chysylltu ag Aberystwyth a Chaernarfon. Ger Pwllheli, ym mhlwyf Penrhos, mae Penyberth, safle'r ysgol fomio a losgwyd mewn protest yn erbyn militariaeth gan Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine yn 1936.
Ceir hefyd safle tacsis wedi'i leoli tu allan i'r fynedfa i'r orsaf reilffordd.
Mae gwasanaethau bws yn y dref yn cael eu gweithredu gan Fysiau Caelloi a Nefyn Coaches a gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r dref yn ogystal â gweddill yr ardal ehangach Penrhyn Llŷn. Mae Clynnog & Trefor yn rhedeg gwasanaethau i Gaernarfon lle gall cysylltiadau gael eu gwneud i Fangor a'r ardal ehangach Gogledd Cymru. Mae gorsaf fysiau Pwllheli wedi ei leoli yng nghanol y dref, yn Y Maes.
Mae tref Pwllheli yn gartref i dîm pêl-droed C.P.D. Pwllheli a thîm rygbi'r undeb, Clwb Rygbi Pwllheli.
Ceir Clwstwr cytiau caeedig Clogwyn Bach gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Pwllheli (pob oed) (4,076) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pwllheli) (3,092) | 78.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pwllheli) (3161) | 77.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pwllheli) (750) | 39.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ym 1925 a 1955. Am wybodaeth bellach gweler:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.